Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 2 Chwefror 2021.
Llywydd, rwy'n cytuno yn llwyr â Lynne Neagle—mae'n brofiad sy'n newid bywydau i fynd dramor i weithio, i astudio, i gyfarfod â phobl ifanc eraill sydd â gwahanol brofiadau, ac mae'n un o benderfyniadau mwyaf ofnadwy Llywodraeth y DU hon i gymryd y cyfleoedd hynny oddi wrth bobl ifanc nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws gweddill y DU. Derbyniodd y Gweinidog Addysg lythyr ar 19 Ionawr gan y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion yn Llywodraeth y DU. Dyma'r hyn yr oedd y llythyr yn ei ddweud: 'Fe wnaethoch chi godi'r posibilrwydd y gallai Cymru ymuno ag Erasmus+ fel cyfranogwr annibynnol. Nid yw'r cymhwysedd gennych chi i ymrwymo i unrhyw gytundeb o'r fath'.
Felly, nid yn unig y maen nhw'n benderfynol o atal cyfleoedd drwy eu gweithredoedd eu hunain, ond maen nhw'n ceisio rhwystro'r ymdrechion y byddem ni'n eu gwneud—a byddem yn sicr yn eu gwneud nhw ochr yn ochr â Llywodraeth yr Alban, pe byddai hynny yn bosibl—i ddod o hyd i ffyrdd eraill y gellid sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael. Nid yw hynny'n golygu, Llywydd, am eiliad nad ydym ni'n parhau i feddwl am bob ffordd y gallwn ni i ddod o hyd i gyfleoedd i'r bobl ifanc hynny. Cefais gyfarfod â llysgennad yr Almaen yn ddiweddar. Roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn pryd y soniodd am bosibiliadau dwyochrog ar gyfer trefniadau cyfnewid rhwng pobl ifanc yma a phobl ifanc yn yr Almaen. Trafodais holl fusnes Erasmus gyda Gweinidog tramor Gweriniaeth Iwerddon yn ddiweddar, unwaith eto gyda'r nod o weld a oes unrhyw lwybrau y gallem ni eu harchwilio yno.
Rydym ni eisiau i bobl ifanc o Gymru allu ymweld, gweithio, astudio, cael yr holl fanteision y cyfeiriodd Lynne Neagle atyn nhw, ac rydym ni eisiau i bobl ifanc o rannau eraill o'r byd ddod yma i Gymru hefyd—posibilrwydd sy'n cael ei ddiystyru yn llwyr yng nghynllun Turing. Dros y penwythnos, Llywydd, rhoddais bleser bach i mi fy hun a gwrandewais am hanner awr ar Wasanaeth y Byd. Cyfweliad oedd hwn gydag epidemiolegydd nodedig iawn, yn arwain tîm ym mhrifysgol Llundain, ac yn ystod y cyfweliad gofynnodd y cyfwelydd iddo, 'Sut y daethoch chi i weithio yn Llundain?' a dywedodd, 'Wel, cefais fy magu yn yr Almaen, fe es i i Belfast ar gynllun Erasmus, ac rwyf i wedi aros yma byth ers hynny.' Dyna'r hyn yr ydym ni'n troi ein cefnau arno trwy agwedd fychanfrydig y Llywodraeth hon yn y DU at yr hyn sydd wedi bod yn un o drysorau'r Undeb Ewropeaidd.