Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 2 Chwefror 2021.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu gwasanaethau sy'n rhoi cyngor a chymorth i ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth i wneud ceisiadau am statws preswylydd sefydlog, a chyngor cyffredinol ac arbenigol arall, sy'n ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion, o fudd-daliadau lles cymdeithasol i faterion cyflogaeth a gweithle.