Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 2 Chwefror 2021.
Diolch, Dirprwy Weinidog, a hoffwn i ddiolch i bawb sy'n gweithio mor galed i gadw ein cymunedau yn ddiogel yn y cyfnod anodd iawn hwn.
Yn ystod y pandemig, mae fy etholaeth i wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a pheryglus gan feiciau modur oddi ar y ffordd sydd yn anghyfreithlon yn defnyddio llwybrau cerdded poblogaidd a hawliau tramwy cyhoeddus eraill. Mae gwaith canmoladwy Llywodraeth Cymru i agor ein llwybrau cerdded a chaniatáu defnydd cwbl gynhwysol, drwy ddileu rhwystrau, wedi ei gwneud yn llawer haws i feiciau modur oddi ar y ffordd ddefnyddio llwybrau o'r fath, ac yn fwy anodd i'r heddlu orfodi'r gyfraith a chadw trigolion yn ddiogel. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Heddlu De Cymru a gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu ynghylch y ffordd orau o fynd i'r afael â'r broblem anhydrin hon?