Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 2 Chwefror 2021.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol i'w galluogi i gefnogi mudiadau gwirfoddol lleol a grwpiau gwirfoddoli ledled Cymru. Rydym ni wedi cymeradwyo £26.5 miliwn, gyda £5.7 miliwn ychwanegol ar gyfer y sector gwirfoddol—cymeradwywyd y £5.7 miliwn olaf hwnnw yr wythnos hon—i gefnogi'r sector yn ystod y pandemig.