Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 2 Chwefror 2021.
Os caf i ymdrin â'r cwestiwn olaf yn gyntaf, oherwydd rwy'n credu, mewn gwirionedd, os bydd pobl yn mynd i ganolfan brofi gydag ystod o symptomau nad ydyn nhw'n rhai arferol, ond yn gallu egluro sut maen nhw'n teimlo, yna ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu gwrthod. Nid dyna fydd eu profiad nhw. Ac, mewn gwirionedd, y broblem fwyaf sydd gennym yw'r bobl sydd â symptomau ond nad ydyn nhw'n cael eu profi. Os edrychwch chi ar adroddiadau'r grŵp cynghori technegol yr ydym ni'n parhau i'w cyhoeddi bob wythnos, fe welwch chi fod nodwedd reolaidd yn y rhain, ac un o'r nodweddion rheolaidd yr wyf i'n sicr yn edrych arno bob wythnos, hyd yn oed os nad yw eraill yn gwneud hynny, yw edrych ar nifer y bobl sy'n cydnabod eu bod nhw wedi bod â symptomau ac yna faint ohonyn nhw sy'n mynd ymlaen i gael y prawf, a dim ond tua hanner y bobl sydd â'r symptomau arferol, fel y mynegwyd yn y cwestiwn, sy'n mynd ymlaen i gael eu prawf eu hunain. Felly, mae problem wirioneddol yma, ac mae yna raniad mewn ystod oedran a rhaniad rhwng y rhywiau hefyd. A dweud y gwir, mae dynion yn llawer llai tebygol o fynd am brawf, ac, mewn gwirionedd, fe wyddom ni mai dynion hŷn yw un o'r categorïau risg uwch hefyd. Felly, mae hyn yn achosi rhwystredigaeth fawr. Mae angen inni gyhoeddi'r neges: os oes gennych chi symptomau, ewch am brawf. Ac mae digon o adnoddau profi ar gael ar hyn o bryd, oherwydd—un o'ch pwyntiau cynharach chi oedd bod y cyfyngiadau symud wedi gweithio o ran gostwng cyfraddau trosglwyddo. Mae'r cyfraddau trosglwyddo yn gostwng, mae cyfraddau achosion yn gostwng—rydym yn dymuno gweld hynny'n parhau—ac mae hynny'n golygu y bydd llai o bobl yn cael profion.
Ac o ran yr arbenigedd sydd gennym o ran genomeg, rydym yn cyflawni llawer mwy na'r disgwyl yng Nghymru, ac fe ddylem fod yn falch iawn o'r hyn y mae ein harbenigwyr genomeg yn ei gyflawni o ran yr ymdrech gyffredinol, nid yn unig ar gyfer Cymru, a'r DU, ond yn fyd-eang hefyd. Mae'r labordai sydd gennym ni ar hyn o bryd mewn sefyllfa i allu darganfod amrywiaeth o amrywiolion newydd. Rydym ni wedi cytuno i sicrhau y bydd gennym ni sampl gynrychioliadol o brofion o Gymru i'w hanfon i labordai goleudy fel y gallan nhw ddarganfod amrywiolyn newydd y DU, amrywiolyn Caint. Ac mae gennym amrywiaeth o brofion ar waith hefyd i ddarganfod ymhle y gallem fod ag amrywiolyn De Affrica. Dyna pam—. Niferoedd isel o amrywiolyn De Affrica sydd gennym ni yma—dyrnaid yn llythrennol—yn hytrach na'r niferoedd llawer mwy sydd, yn anffodus, wedi eu profi yn gadarnhaol yn Lloegr. Ac fe fydd hyn yn bwysig iawn i ni—rydym yn awyddus i weld llwyddiant gyda'r rhaglen brofi honno yn Lloegr sy'n chwilio am amrywiolyn De Affrica, oherwydd fe fydd honno mewn gwirionedd yn helpu i gadw pob un ohonom yn ddiogel. Ac mae rhai o'r ardaloedd lle maen nhw'n cynnal profion ar y ffin â Chymru, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'n agos at ein gilydd ledled y DU er mwyn deall yr wybodaeth yr ydym yn ei chaffael, a'i rhannu'n agored wedyn. Ac mae honno wedi bod yn nodwedd bwysig iawn drwy gydol y pandemig hwn. Fe fydd yn rhaid i hynny barhau am fisoedd lawer i ddod.