Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 2 Chwefror 2021.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais y cyntaf o dri adroddiad thematig yn nodi'r hyn sy'n dod i'r amlwg o'r rhaglen adolygu clinigol a sefydlwyd gan banel goruchwylio annibynnol y gwasanaethau mamolaeth a benodwyd gennyf. Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar adolygu tua 160 o achlysuron gofal a ddarperir gan wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol hen Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf rhwng 1 Ionawr 2016 a 30 Medi 2018. Roedd yr adroddiad cyntaf yn canolbwyntio ar y gofal a ddarperir i famau ac yn benodol y rhai yr oedd angen gofal brys arnyn nhw, a arweiniodd yn bennaf at dderbyn gofal dwys.
Fel y bydd yr Aelodau wedi'i weld yr wythnos diwethaf, yn gyffredinol mae canfyddiadau'r adroddiad yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r adolygiad annibynnol a gomisiynais gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn 2018. Nid profiad braf oedd ei ddarllen pan gadarnhaodd y canfyddiadau, mewn 27 o'r 28 o'r achosion o feichiogrwydd a adolygwyd, canfuwyd ffactorau a gyfrannodd at ansawdd y gofal a gafodd menywod. Mae'n bryder sylweddol, mewn 19 o'r adolygiadau, yr ystyriwyd fod y ffactorau yn rhai pwysig. Mae hynny'n golygu y gellir disgwyl yn rhesymol i ofal gwahanol fod wedi newid y canlyniad.
Nid wyf yn bychanu pa mor drallodus y bu'r adroddiad hwn i'r menywod a'u teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw. Er fy mod yn gobeithio ei fod wedi rhoi atebion i bryderon a oedd ganddyn nhw o bosib, mae'r adroddiad yn cadarnhau bod y pryderon hynny'n real iawn. Mae'n ddrwg iawn gennyf i o hyd am yr hyn a aeth o'i le ac rwy'n gwybod na all dim newid yr hyn a ddigwyddodd i'r menywod hyn a'u teuluoedd. Er ei bod hi'n bwysig bod yn dryloyw ynglŷn â'r canfyddiadau hyn, sylweddolaf hefyd ei bod hi'n ddigon posibl eu bod wedi achosi trallod pellach i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw. Efallai ei fod wedi sbarduno'r atgofion hynny o'u profiadau gwael ac, ar adegau, trawmatig.
Mae'r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd gwrando ar fenywod pan fyddant yn gwybod bod rhywbeth o'i le. Mae cyfathrebu gwael yn thema allweddol sy'n sail i'r ffactorau a nodwyd yn yr adroddiad. Roeddwn yn falch, fodd bynnag, fod y panel wedi cydnabod y ffordd agored a thosturiol y mae'r bwrdd iechyd wedi ymateb a'r gefnogaeth y mae wedi'i rhoi ar waith i fenywod a theuluoedd drwy'r broses adolygu hon. Hoffwn ddiolch hefyd i wasanaeth eirioli'r cyngor iechyd cymuned am ei swyddogaeth bwysig yn y gwaith hwn.
Ni ddylem ni danbrisio pa mor anodd y bydd yr adroddiad hwn wedi bod i staff ac yn enwedig ar adeg pan fo'r GIG, gan gynnwys gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, wedi bod o dan bwysau aruthrol. Mae'n bwysig cydnabod, fel y mae'r adroddiad yn ei wneud, fod gwelliannau sylweddol wedi'u cyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf y mae'r panel wedi cadarnhau yn ei adroddiadau blaenorol. Mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth ag ymrwymiad a gwaith caled y staff ac, yn wir, yr arweinyddiaeth newydd. Mae'r adroddiad thematig hefyd yn cadarnhau mai'r meysydd gwella hynny oedd y rhai cywir i ganolbwyntio arnyn nhw.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Mick Giannasi, cadeirydd y panel annibynnol, a chadeirydd y bwrdd iechyd, Marcus Longley, i adolygu cynnydd ac ystyried y camau nesaf. Bydd y panel nawr yn troi ei sylw at gwblhau'r adolygiadau o ofal babanod a oedd yn farwanedig yn anffodus. Unwaith y bydd canfyddiadau unigol wedi'u rhannu â menywod a theuluoedd, byddant yn cynhyrchu adroddiad pellach yn disgrifio'r dysgu thematig. Byddant yn parhau i oruchwylio agweddau mamolaeth y rhaglen wella.
Ar y cyd, mae'r panel yn rhoi mwy o bwyslais ar ofal newyddenedigol. Mae'r adolygiadau o fabanod yr oedd angen gofal arbenigol arnyn nhw neu a fu farw yn anffodus ar ôl eu geni, ar y gweill. Dyma'r categori mwyaf, sy'n cynnwys tua 70 adolygiad. Mae angen i'r panel sicrhau bod y dysgu uniongyrchol sy'n deillio o'r adolygiadau hyn yn cyd-fynd ag agweddau newyddenedigol rhaglen wella'r bwrdd iechyd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn penderfynu a yw'r holl gamau gofynnol eisoes wedi cael sylw neu ar y gweill.
Er mwyn sicrhau bod hyn mor gadarn â phosibl, mae'r panel wedi nodi'r angen i ehangu ei aelodaeth i gynnwys arbenigedd newyddenedigol. Maen nhw wedi argymell i mi fod neonatolegydd a nyrs newyddenedigol yn ymuno â'r panel. Wrth wneud hynny, maen nhw yn bwriadu defnyddio'r arbenigedd sydd eisoes yn rhan o'r rhaglen adolygiad clinigol. Bydd hyn yn eu galluogi i sicrhau y rhoddir manyldeb yr un mor drylwyr i roi sicrwydd ynghylch yr agweddau newyddenedigol ar wella, ochr yn ochr â'r dysgu sy'n deillio o'r adolygiadau clinigol unigol.
Er mwyn pwyso a mesur, maen nhw yn bwriadu cynnal archwiliad manwl o'r gwasanaeth presennol, a sicrhau yr eir i'r afael ag unrhyw welliannau sydd eu hangen, a'u bod yn derbyn yr argymhellion a nodwyd yn adolygiad y colegau brenhinol yn llawn. Roeddwn yn falch bod Marcus Longley, y cadeirydd, wedi cadarnhau y byddai'r bwrdd yn croesawu'r datblygiad hwn, a'r oruchwyliaeth a'r cyngor allanol, annibynnol ychwanegol y bydd yn eu darparu iddyn nhw. Bydd hyn yn sicrhau y gellir rhoi sicrwydd llwyr iddyn nhw o ran ansawdd gofal newyddenedigol, a'r gwelliannau y maen nhw yn eu gwneud.
Menywod a theuluoedd sydd wrth wraidd y broses hon o hyd. Gobeithio y gallant weld fy mod i, y panel annibynnol a'r bwrdd iechyd yn benderfynol y dylem ni wneud popeth posibl i sicrhau ein bod yn dysgu o'r gorffennol. Mae hyn hefyd yr un mor bwysig i'n staff, gan eu bod yn haeddu gweithio mewn amgylchedd agored a chefnogol bob amser lle mae pwyslais o hyd ar ddysgu.
Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, a byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach unwaith y bydd aelodau ychwanegol y panel wedi'u cadarnhau. Diolch.