Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wel, rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau sydd wedi aros i wrando ar y ddadl fer y prynhawn yma yn cytuno â mi fod penderfyniad Suzy Davies i ymddeol o'r Senedd yn golled wirioneddol—mae'n golled wirioneddol i'n gwaith yma, a hoffwn gofnodi fy niolch i Suzy Davies am ei gwasanaeth, nid yn unig i bobl Gorllewin De Cymru ond i'r gwasanaeth i'w gwlad. Suzy, fel y dywedais, fe welir colli eich cyfraniad yn fawr. Hoffwn ddiolch i chi hefyd am gydnabod yr arddangosiad cenhadaeth ddinesig gwych a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Prifysgolion Cymru. Wrth ddod i'r swydd hon, heriais ein sefydliadau addysg uwch i ailgyfeirio'r ymdeimlad o genhadaeth ddinesig, ac rwyf mor falch eu bod wedi croesawu'r her honno, a dim ond un o'r ffyrdd y mae ein sefydliadau addysg uwch yn gwasanaethu eu myfyrwyr, ac yn ein gwasanaethu ni fel cenedl yn ogystal, yw'r prosiect rydych wedi sôn amdano y prynhawn yma.
O ystyried mai dyma'r ddadl fer olaf y bydd Suzy Davies, a finnau yn wir, yn ei gwneud yn y Siambr rithwir hon, am unwaith yn unig, Suzy, rwyf am ildio a gadael Turing ar gyfer diwrnod arall. Ond a gaf fi ddiolch yn ddiffuant i chi am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr? Fel y dywed Suzy, mae dysgu ieithoedd nid yn unig yn rhoi cymwysterau i'n pobl ifanc, mae'n rhoi cyfle iddynt ehangu eu gorwelion, dyfnhau dealltwriaeth ddiwylliannol, a darparu sgiliau y gallant eu defnyddio yma ac ar draws y byd. Mae gennyf weledigaeth glir iawn i'n holl ddysgwyr ddod yn ddinasyddion amlieithog, byd-eang. Ac yn y byd rydym ynddo, byddai'n hawdd diystyru'r heriau y mae ieithoedd rhyngwladol yn eu hwynebu fel rhai dibwys o'u cymharu â'r rhai rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn ein hysgolion—ac y gellid neilltuo'r gostyngiad yn nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern a'r lleihad yn y ddarpariaeth fel problemau ar gyfer diwrnod arall. Fodd bynnag, fe ddown drwy'r cyfnod hynod heriol hwn, ac rwyf wedi ymrwymo i barhau â'n cymorth i ddysgwyr i ddeall y cyfoeth o gyfleoedd y mae ieithoedd rhyngwladol yn eu cynnig.
Mae ein cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu amgylcheddau a darpariaeth sy'n gyfoethog o ran iaith ledled Cymru, ac mae'n nodi newid diwylliant o un sy'n dweud wrth ysgolion beth i'w wneud a beth i'w addysgu i un sy'n rhoi'r cyfrifoldeb i'r ysgolion am ddatblygu cwricwlwm sy'n gweithio orau i'w holl ddysgwyr, ond o fewn fframwaith cenedlaethol. A bydd yn cyflwyno dysgu ieithoedd rhyngwladol o oedran cynnar iawn, gyda disgwyliadau clir ar gyfer cynnydd dysgwyr tra'u bod yn yr ysgol gynradd. Rwyf wedi defnyddio'r stori hon o'r blaen, rwy'n gwybod, ond mae'n un mor hyfryd, rwy'n mynd i'w defnyddio eto. Ymweliad ag ysgol pob oed yng nghymuned Aberdâr; rwy'n ymweld â'u disgyblion ieuengaf, lle roedd y plant yn darllen Y Lindysyn Llwglyd Iawn, nid yn unig yn Saesneg, ac nid yn unig yn Gymraeg, ond yn dysgu'r ffrwythau a'r eitemau roedd y lindysyn llwglyd yn eu bwyta yn Sbaeneg hefyd. Ac yn union fel y dywedodd Laura, roedd y plant hynny'n anymwybodol eu bod yn dysgu ac yn gwella eu geirfa mewn tair iaith wahanol. Iddynt hwy, cyffro geiriau newydd oedd yn bwysig, ymadroddion newydd, a'r seiniau newydd roeddent yn gwrando arnynt. A mawredd, os gallwn gyflwyno hynny ar draws ein holl ddarpariaeth cyfnod sylfaen, am waddol gwych y byddwn yn ei greu i'r plant hynny. Dylai cael gwared ar ffiniau rhwng pynciau rymuso ysgolion i gynllunio darpariaeth iaith wirioneddol gyfannol a dylai ysgolion deimlo eu bod wedi'u grymuso i fod yn greadigol ac i ddatblygu cyfleoedd dysgu ystyrlon.