Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:45, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi clywed sôn ichi addo saith gwaith i beidio â chyflwyno’r rheoliadau parthau perygl nitradau hyn yn ystod y pandemig. Mewn gwirionedd, rwyf wedi dod o hyd i fwy na 10 enghraifft lle rydych wedi nodi'n benodol, ar Gofnod y Cyfarfod Llawn neu i bwyllgorau'r Senedd, na fyddech yn cyflwyno'r rheoliadau hyn yn ystod y pandemig COVID. Nawr, ar yr union ddiwrnod y dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn un o sesiynau briffio’r Llywodraeth fod cryn dipyn o amser tan y byddwn wedi cefnu ar effeithiau gwaethaf y pandemig COVID, fe wnaethoch gyflwyno'r rheoliadau hyn. Felly, fe dorroch chi eich gair, Weinidog. Rydych wedi ein camarwain ac rydych wedi torri'ch addewid i ffermwyr Cymru, ac wrth gwrs, nid chi yw'r unig un sydd wedi ein camarwain. Ysgrifennais at y Prif Weinidog y bore yma gan iddo gael ei gofnodi'n dweud ddoe, ac rwy’n dyfynnu:

'Nid ydym ni wedi gweld unrhyw leihad yng nghyfradd y llygredd amaethyddol.'

Ac mae'r ystadegau rwyf wedi’u gweld yn dangos, mewn gwirionedd, fod nifer yr achosion a brofwyd o lygredd amaethyddol mewn dŵr wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf—gostyngiad o un flwyddyn i'r llall, yn ôl ffigurau Cyfoeth Naturiol Cymru, rhwng 2018 a 2020. Ac i'r gwrthwyneb, os caf ddweud, mae llygredd o'r diwydiant dŵr wedi cynyddu bob blwyddyn yn yr un cyfnod, ond wrth gwrs, y ffermwyr sy'n cael eu cosbi unwaith eto gan eich Llywodraeth. Nawr, onid yw hyn oll a'r holl addewidion a dorrwyd a’r ystadegau ffug hyn yn tynnu sylw at y ffordd ddryslyd, anhrefnus ac anniben rydych wedi mynd i’r afael â'r mater hwn?