Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:49, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf yn ymwybodol o'r erthygl y cyfeiriwch ati, ond credwch fi, rwyf wedi gofyn am lawer iawn o sesiynau briffio ynglŷn â hyn. Rydym wedi edrych ar lawer iawn o wahanol agweddau ar hyn, a chredaf y dylem hefyd fod yn glir iawn nad mynd i'r afael â llygredd nitradau yw unig ddiben y rheoliadau hyn. Mae llygredd amaethyddol yn cynnwys pethau eraill, fel ffosfforws ac amonia ac allyriadau nwyon tŷ gwydr, er enghraifft. Credaf y bydd yn cael ei dargedu at arferion fferm. Rydym yn gweld achosion o lygredd amaethyddol ledled Cymru, nid mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn unig. Ac os edrychwch ar yr hyn y mae gwledydd eraill y DU yn ei wneud, mae ganddynt wahanol ardaloedd dynodedig, os hoffwch—rwyf wedi cael hynny wedi’i daflu ataf hefyd—ond os edrychwch ar yr hyn y maent yn ei wneud mewn perthynas â'r holl lygredd amaethyddol, fe welwch fod pethau'n debyg iawn.