Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 3 Chwefror 2021.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod o gamau ar waith i gefnogi’r economi gyfan, ynghyd â sicrhau bod cyllid penodol ar gael ar gyfer yr economi wledig. Yn ddiweddar, rwyf wedi diogelu'r gyllideb ar gyfer ffermwyr yn 2021, ac rwyf hefyd wedi cyhoeddi ystod o gynlluniau drwy'r rhaglen datblygu gwledig sy'n werth cyfanswm o £106 miliwn.