Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch. Mae mynd i'r afael ag achosion dirywiad pryfed yn ganolog i'n polisïau ar gyfer cynyddu bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno'r rheoliadau llygredd amaethyddol a'r Papur Gwyn ar Fil aer glân. Mae'r ddau’n fesurau hanfodol a fydd yn sicrhau manteision i bryfed. Mae'r cynllun gweithredu ar gyfer pryfed peillio’n nodi blaenoriaethau pellach ar gyfer cynyddu nifer y pryfed peillio.