Niferoedd Pryfed

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:14, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Felly, nid yw'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU yn cael unrhyw effaith yma yng Nghymru, felly ni chynhaliwyd asesiad o'r ffaith eu bod wedi gwneud hyn, ac ni wnaed unrhyw gais i'w defnyddio yng Nghymru, felly nid oes angen unrhyw benderfyniad gennyf fi. Ond na, yn sicr, ni fyddwn yn dymuno gwneud hynny, ond fel y dywedaf, nid yw effaith penderfyniad Lloegr yn cael unrhyw effaith yma yng Nghymru. Fel y dywedwch, fe wnaethant gefnogi rheolau newydd yr UE yn ôl yn 2017, a oedd yn gwahardd y defnydd o dri phlaladdwr neonicotinoid yn yr awyr agored, a gwnaethom gefnogi safbwynt y DU yn llwyr oherwydd yr effaith ar wenyn a phryfed peillio. Felly, nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid hynny o gwbl.