Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 3 Chwefror 2021.
Weinidog, yr wythnos diwethaf, cychwynnodd cyngor Rhondda Cynon Taf ail gam ei ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllideb 2021-22, gyda thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill yn cael eu gwahodd i ddweud eu barn am y cynigion penodol a amlinellwyd. Mae hyn yn cynnwys: codiad arfaethedig o 2.65 y cant yn y dreth gyngor, sef y codiad lleiaf, fwy na thebyg, yng Nghymru y flwyddyn nesaf, a llai na'r 2.85 y cant a gynigiwyd ac yr ymgynghorwyd arno'n wreiddiol; £2.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y gyllideb ysgolion; £4.6 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd; dim toriadau i wasanaethau; ac adnoddau ychwanegol wedi'u targedu ar draws sawl maes gwasanaeth blaenoriaethol. Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod y cynigion hyn yn brawf o ddarpariaeth arfaethedig a chynllunio rhagorol mewn cyfnod heriol iawn, ac yn dangos sut y mae llywodraeth leol, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru, yn gallu cyflawni ar ran trigolion RhCT?