Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 3 Chwefror 2021.
Weinidog, ar ddechrau'r pandemig, cynigiodd lawer o bobl wirfoddoli, naill ai yn y gymuned neu fel staff y GIG ar gyfer dyletswyddau clinigol. Clywaf gan lawer o etholwyr na chafodd eu hymholiadau eu hateb hyd yn oed, ac mae'r fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth ddychwelyd i weithlu'r GIG yn fater a gofnodwyd yn gyhoeddus. Pa wersi sydd wedi'u dysgu gan awdurdodau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf i harneisio ewyllys da trigolion yn well a sicrhau bod eu diddordeb mewn helpu eu cymunedau yn cael ei gofrestru'n effeithiol rhag ofn y bydd unrhyw argyfyngau eraill yn codi?