Staff Awdurdodau Lleol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:24, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny, Weinidog, ac rwy'n adleisio eich sylw am lwyddiannau aruthrol staff awdurdodau lleol yn ystod y pandemig hwn. Ond yn amlwg, mae gennym broblemau nad ydynt yn rhai COVID hefyd, o natur gronig, ac rwy'n siarad nawr fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar olwg, yn amlwg rydym yn cydnabod bod gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae yn parhau i ddarparu gwasanaethau cymorth, ac un o'r rolau hynny yw'r swyddogion adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg—neu ROVIs, fel y'u gelwir. Nawr, mae'n arbennig o siomedig nodi bod nifer yr awdurdodau lleol sy'n bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer nifer y swyddogion adsefydlu yn y boblogaeth wedi disgyn o 12 i wyth allan o'r 22. Yn ein hardal ni yn Abertawe, Weinidog, dim ond 0.5 ROVI cyfwerth ag amser llawn sydd gan yr awdurdod lleol, lle dylai fod ganddynt o leiaf 3.5 cyfwerth ag amser llawn, sy'n golygu mai honno yw'r ardal awdurdod lleol sy'n perfformio waethaf yng Nghymru. Felly, yn dilyn hynny oll, pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl sy'n byw gyda nam ar eu golwg eich bod yn gweithio gyda'r Gweinidog iechyd i fynd i'r afael â'r diffyg cymorth cronig hwn?