Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 3 Chwefror 2021.
Ie, rwy’n parhau i weithio’n agos gyda llywodraeth leol, gan gynnwys yn rhanbarth Canol De Cymru, a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill ar y gwersi allweddol a ddysgwyd yn ystod ein hymateb i COVID-19 a fydd yn helpu ein hadferiad strategol yn fwy hirdymor, ac yn helpu i ddiffinio normal newydd y dyfodol.