Cymorth Tai

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:09, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog; credaf fod y rhan honno o safbwynt cyffredinol y Llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y pum mlynedd diwethaf. Ond fe fyddwch wedi gweld yr adroddiadau, y gofynnais i'r Prif Weinidog amdanynt ddoe, sydd wedi dangos yn glir iawn y bydd ardaloedd fel Blaenau Gwent ac ardal Blaenau'r Cymoedd yn dioddef yn anghymesur o ganlyniad i'r pandemig COVID. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn deall sut y gall eich adran ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer adeiladu tai, perchentyaeth a datblygu tai mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent, er mwyn sicrhau y gall ein cymuned gyfan ymuno yn yr adferiad o'r pandemig hwn?