Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch, Lywydd. Yfory, 4 Chwefror, yw Diwrnod Canser y Byd. Ar y diwrnod hwn, byddwn yn atgoffa ein hunain o'r effaith y mae canser yn ei chael ar bobl a'r egni sy'n bodoli mewn cymunedau ym mhob rhan o'r byd i wneud cynnydd yn y frwydr yn erbyn canser. Eleni, gallwn hefyd ystyried sut y mae'r frwydr yn bodoli ochr yn ochr â heriau pandemig byd-eang, ond mae'n rhaid inni gofio nad yw'r frwydr byth yn dod i ben oherwydd, fel coronafeirws, nid yw canser yn diflannu. Mae'n parhau i effeithio ar bobl, ac mae angen inni sicrhau bod y frwydr yn ei erbyn nid yn unig yn parhau ond yn cryfhau.
Mae'r thema eleni yn canolbwyntio ar y neges, 'Rwyf fi ac fe wnaf', ac mae'n ein hannog i ymrwymo'n bersonol i leihau effaith canser. Nawr, rwy'n siŵr, fel pob Aelod, y byddaf fi, fel yr Aelod dros Aberafan a chadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ganser, yn parhau i gymryd camau cadarnhaol personol a byddaf bob amser yn galw am flaenoriaethu gwasanaethau diagnostig canser yn ystod y pandemig hwn. Nid yw'r angen brys am ddiagnosis cynnar wedi newid. Gwyddom fod y cynnydd cyflym mewn heintiau COVID-19 a'r derbyniadau i ysbytai wedi rhoi pwysau aruthrol ar wasanaethau, ac rwy'n diolch i'n staff sy'n gweithio'n galed i sicrhau y gall diagnosis a thriniaethau canser barhau'n ddiogel.
Mae trefnwyr Diwrnod Canser y Byd yn gofyn i Lywodraethau weithredu drwy gael cynlluniau rheoli canser cenedlaethol. Rwy'n falch ein bod ni yma yng Nghymru yn elwa o'r llwybr canser sengl a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, ond oherwydd y pandemig, mae'n debygol y gallai 3,500 o bobl fod wedi methu diagnosis o ganser yng Nghymru erbyn hyn. Mae llawer i'w wneud i ganfod pob diagnosis a gollwyd. Ni allwn adael i'r feirws hwn ddileu'r angen i fynychu ein meddygfeydd, boed hynny ar gyfer peswch, lwmp neu unrhyw symptom arall sy'n peri pryder. Felly, heddiw, gadewch i ni i gyd ailymrwymo i barhau â'r frwydr yn erbyn canser ac annog pobl i ofyn am gymorth os ydynt yn amau bod rhywbeth o'i le.