5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Clyw fy nghân: ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:37, 3 Chwefror 2021

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fel cenedl, rydym ni'n dathlu llenyddiaeth a cherddoriaeth yn ein hanthem genedlaethol ni drwy sôn am 'wlad beirdd a chantorion'. Mae gennym ni draddodiad hir o ran cerddoriaeth a cherddoriaeth fyw yn benodol. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth felly wneud yn siŵr ei bod yn gwneud bob dim o fewn ei gallu i gefnogi, cynorthwyo a hyrwyddo diwydiant cerddoriaeth fyw Cymru. Ac, fel efo llawer o sectorau eraill, mae'r pandemig wedi effeithio'n enbyd ar y sector.

Mae adroddiad y pwyllgor yn hynod gynhwysfawr gan roi'r chwyddwydr ar gyflwr y diwydiant cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Mae'n adlewyrchu'r problemau a wynebodd y sector, ac maen nhw'n dal i'w wynebu ar hyn o bryd, ac mae o hefyd yn tanlinellu'r bygythiad y mae coronafeirws yn ei beri i'r sector.

Un peth sy'n fy nharo i'n syth, wrth ddarllen y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'r ymgynghoriad i'r ymchwiliad, ydy'r angen am strategaeth gerddoriaeth gan y Llywodraeth. Mae recordiau SAIN yn dweud fel hyn: 

'Yr wyf yn gryf o’r farn mai un o brif ddiffygion y diwydiant cerdd yng Nghymru yw’r ffaith nad oes strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth sy’n edrych ar y diwydiant cerdd yn ei gyfanrwydd.'

Ac, i'r perwyl hynny, felly, mae'n dda gweld argymhelliad 6, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r diwydiant, ddatblygu strategaeth gerddoriaeth. Ym marn Plaid Cymru, mae'n rhaid i hyn fod yn strategaeth holistaidd, gynhwysol a bod yn rhan annatod o'r strategaeth ddiwylliant newydd sydd ei hangen ar Gymru.

Mae yna ddatblygiadau positif, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at Ddydd Miwsig Cymru, a'r diwrnod hwnnw eleni yn cael ei gynnal ddydd Gwener yma—mae'n amlwg mewn ffordd hollol wahanol. Ond mae angen adeiladu ar hyn. Nid diwrnod yn unig, ond mae eisiau prosiectau lleol sy'n creu cyfleoedd 12 mis y flwyddyn i bobl ddysgu, perfformio, hyrwyddo a threfnu digwyddiadau. 

Mae'n rhaid i ni ddefnyddio cerddoriaeth i ddenu pobl ifanc at y Gymraeg, yn enwedig yn yr oed ôl-addysg, ble mae yna gwymp sylweddol yn nifer y siaradwyr. Ac, fel mae siaradwyr eraill wedi sôn, mae angen gweithredu ar argymhelliad rhif 9, sef y galw am sefydlu'r gronfa gyfalaf yma a allai helpu cadw lleoliadau fel Gwdihŵ, Caerdydd, er enghraifft, ac mi fyddai yna newidiadau yn gallu digwydd yn y system gynllunio hefyd i sicrhau bod adeiladau ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yn aros yn hyfyw.

Dwi'n croesawu'r adroddiad, ac yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor ac i'r holl dystion am gymryd yr amser i gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae'r argymhellion amrywiol yn eang, ac yn sicr yn rhoi llawer i'r Llywodraeth, ac i ni fel Aelodau Senedd sy'n cymryd diddordeb mewn polisi diwylliant, llawer iawn i'w ystyried.