Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 3 Chwefror 2021.
Wrth ganolbwyntio ar yr angen i gefnogi gofal lliniarol yn y pandemig, mae ein cynnig yn cydnabod effaith pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes a'r rhai sydd â salwch angheuol a'u hanwyliaid, ac yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth profedigaeth.
Ni fu gofal lliniarol a gofal diwedd oes erioed mor bwysig ag y maent yn awr. P'un ag a ydynt yn marw o COVID-19 neu gyflyrau angheuol eraill a chyflyrau eraill sy'n byrhau bywyd, mae angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes arbenigol ar bobl. Mae'r cynnydd difrifol yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r pandemig wedi cynyddu'r angen am ofal hosbis a gofal lliniarol, ar ben angen sydd eisoes yn cynyddu, gyda'r rhagamcanion eisoes y bydd marwolaethau blynyddol o dan amgylchiadau arferol yn cynyddu 25 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf. Fel y dywed Marie Curie, hyd yn oed cyn y pandemig nid oedd un o bob pedwar o bobl yn cael y gofal na'r cymorth roeddent eu hangen ar ddiwedd eu hoes. Mae pobl yn byw'n hirach gyda chyflyrau lluosog, ac erbyn hyn mae ein byd yn cynnwys feirws a allai orfodi unrhyw un ohonom i wynebu ein marwolaeth ein hunain yn gynt nag y disgwyliem.
Fel y dywed Hospice UK, yn ystod y pandemig mae Cymru wedi gweld cynnydd o 10 y cant yn nifer y marwolaethau, a gallai pob person sy'n marw o COVID-19 elwa o ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Mae hosbisau a gwasanaethau gofal lliniarol y GIG wedi darparu dilyniant gofal i bobl â chyflyrau angheuol a chyflyrau sy'n byrhau bywyd drwy gydol y pandemig. Mewn rhai achosion, mae staff rheng flaen hosbisau wedi bod ymhlith yr unig weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sydd mewn cysylltiad â phobl wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu hoes. Er bod llawer o bobl am farw yn eu cartrefi eu hunain, i rai, yr hosbis yw'r lle gofal y maent yn ei ddewis, ac i lawer, efallai na fydd yn bosibl nac yn ymarferol iddynt gael cefnogaeth i allu marw yn eu cartref eu hunain, gan amlygu pwysigrwydd unedau hosbis i gleifion mewnol hefyd. Drwy gydol y pandemig, mae hosbisau wedi mynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod mynediad gan gymunedau at eu gwasanaethau cleifion mewnol sy'n darparu gofal diwedd oes arbenigol neu ofal mewn argyfwng os bydd eu hangen arnynt. Newidiodd Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam ei broses atgyfeirio fel y gallai pobl neu eu teuluoedd hunangyfeirio i'w gofal, yn ogystal â chadw llwybrau traddodiadol atgyfeirio proffesiynol. Yn hytrach na chau, sicrhaodd yr hosbis fod mwy o fynediad at eu gofal i bob pwrpas.
Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hyd at £6.3 miliwn i gefnogi gofal hosbis clinigol craidd parhaus, a datblygu gofal profedigaeth hosbisau, gan gydnabod y gofal hanfodol a ddarperir gan hosbisau pan nad oes darpariaeth GIG amgen ar waith, gofal a ariennir yn bennaf drwy roddion elusennol. Yn 2019, roedd angen i hosbisau godi £33.3 miliwn yn ychwanegol at y £5.7 miliwn a gawsant o ffynonellau statudol. Er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £6.3 miliwn i gronfa argyfwng yr hosbisau, mae hyn yn llai hael na chronfeydd cyfatebol ym mhob un o wledydd eraill y DU, ac mae'n sylweddol is na'r cyfanswm a ddyrannwyd i Lywodraeth Cymru mewn cyllid canlyniadol o gymorth Llywodraeth y DU i hosbisau yn Lloegr.
Ni chadarnhawyd unrhyw gymorth ychwanegol i hosbisau yng Nghymru i gynnal eu gwasanaethau hanfodol yn ystod 2020-21, ac maent yn wynebu diffyg cyfunol o £4.2 miliwn erbyn mis Mawrth, sef mis nesaf. Fodd bynnag, mae hosbisau a gwasanaethau gofal lliniarol cymunedol yn dal i ddarparu gofal wyneb yn wyneb hanfodol i bobl. Mae mwy o bobl yn derbyn gofal ar ddiwedd eu hoes yn eu cartrefi eu hunain, a hyn pan nad yw teuluoedd estynedig a ffrindiau yn gallu bod gyda hwy, gan roi teuluoedd agos o dan bwysau enfawr. Mewn cyferbyniad, ychwanegodd GIG Lloegr hyd at £125 miliwn at eu pecyn ariannu gwreiddiol ar gyfer y pum mis o fis Tachwedd 2020 i fis Mawrth 2021, sy'n cyfateb i hyd at £6 miliwn ychwanegol mewn cyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru. Unwaith eto, nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn elwa ohono. At hynny, nid oedd unrhyw arwydd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 o gymorth parhaus i hosbisau er mwyn cynnal eu gwasanaethau hanfodol, er gwaethaf eu diffyg cyfunol amcangyfrifedig o £6.1 miliwn yn ystod 2021-22.
Cyn y pandemig, cytunodd Llywodraeth Cymru i adolygu cyllid elusennol i hosbisau, gan gydnabod nad yw'r trefniadau presennol yn adlewyrchu angen y boblogaeth am ofal lliniarol yn gywir nawr, na'r cynnydd a ragwelir yn y dyfodol. Hyd yma, nid yw'r adolygiad hwn wedi dod i law. Mae'r holl wasanaethau hosbis i gleifion mewnol sy'n darparu gofal diwedd oes arbenigol neu ofal mewn argyfwng wedi parhau drwy gydol y pandemig, fel y mae timau hosbis a chwnsela profedigaeth, gyda llawer ohonynt hefyd yn cynnig gofal iechyd meddwl a phrofedigaeth arbenigol i staff iechyd a gofal lleol drwy'r pandemig. Wrth i gynllun cyflawni presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal diwedd oes ddod i ben, mae hosbisau yng Nghymru yn galw am gynllun cenedlaethol newydd sy'n arfer dull system gyfan ac sy'n ymateb i'r newid mewn marwolaethau yn y cartref drwy gydol y pandemig. Fel y mae'r pandemig wedi dangos, dylai pob person gael mynediad at ofal diwedd oes arbenigol ac urddasol ni waeth ble maent yn marw. Diolch.