Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr heddiw ac i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn a oedd gan y siaradwyr i'w ddweud. Ni fyddaf yn gallu ateb yr holl gwestiynau, ond byddaf yn dod at y rheini ar y diwedd. A dylwn ddweud ar y dechrau fy mod, ar y cyfan, yn cefnogi'r cynnig a'r gwelliant.
Mae'r pandemig wedi tynnu sylw'n fwy nag erioed at y ffaith y gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes, gan eu helpu i fyw cystal ag sy'n bosibl, a phan ddaw'r amser, i farw gydag urddas. Gall hefyd wneud gwahaniaeth sylweddol i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl a sut y maent yn ymdopi â'r galar o golli rhywun annwyl. Mae hefyd wedi pwysleisio'r effaith emosiynol y gall gweithio yn y sector gofal diwedd oes a/neu ofalu am rywun ar ddiwedd eu hoes ei chael.
Rydym yn parhau i fuddsoddi dros £8.4 miliwn bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol ledled Cymru. Mae llawer o'r arian hwn yn mynd i gefnogi hosbisau, sy'n ganolog i'n dull o weithredu gofal diwedd oes. Ni ellir tanbrisio'r cymorth y maent yn ei roi i gleifion, teuluoedd a gofalwyr. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes a'r byrddau iechyd dros y misoedd nesaf i adolygu'r cyllid a roddir i hosbisau oedolion a phlant, ac mae'n bwysig cydnabod rôl bwrpasol hosbisau plant yn yr adolygiad hwn. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dyrannu £6.3 miliwn o gyllid brys i gefnogi hosbisau drwy gydol y pandemig. Rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn yn darparu £3 miliwn ychwanegol i gefnogi hosbisau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, gan godi cyfanswm y buddsoddiad ychwanegol i hosbisau yn ystod y pandemig i £9.3 miliwn.
Rwy'n cydnabod yr effaith y gall marwolaeth rhywun annwyl ei chael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau, yn enwedig yn sgil y cyfyngiadau a roddir arnom gan COVID-19. Mae galar yn rhan naturiol o'n hymateb i farwolaeth. Fodd bynnag, heb allu ymweld ag anwyliaid ar ddiwedd eu hoes neu gyflawni ein defodau a'n harferion cyfarwydd, gall y profiad o alar fod yn fwy cymhleth fyth. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi cyhoeddi canllawiau i sicrhau y caniateir i gleifion ar ddiwedd eu hoes, boed yn yr ysbyty, hosbis neu gartref gofal, gael ymweliad gan eu hanwyliaid, nid yn unig yn yr eiliadau olaf, ond yn wir, yn nyddiau olaf eu hoes. Mae cydbwyso hawliau pobl a chefnogi eu lles gydag awydd i ddiogelu pobl rhag y risg o haint yn parhau i fod yn heriol iawn. Gyda'n gilydd, rhaid inni ymateb i'r her honno a gwneud popeth yn ein gallu i gynorthwyo pobl i weld eu hanwyliaid mewn ffordd mor ddiogel â phosibl.
Mae gwaith ar ddatblygu fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn mynd rhagddo'n dda. Bydd y fframwaith yn nodi egwyddorion craidd, safonau gofynnol ac ystod o gamau gweithredu i gefnogi cynlluniau rhanbarthol a lleol. Bydd yr ymgynghori'n parhau y gwanwyn hwn ac fe'i cefnogir gan £1 filiwn o gyllid ychwanegol o fis Ebrill 2021. Rydym hefyd wedi darparu £900,000 o gymorth ychwanegol i hosbisau a darparwyr gwasanaethau profedigaeth drwy gydol y pandemig i wella eu gofal a'u cymorth profedigaeth yn benodol.
Rwyf hefyd am gydnabod y rôl hanfodol y mae nyrsys ardal yn ei chyflawni drwy ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes gartref ac mewn cartrefi gofal, a'u cymeradwyo am gynnal gwasanaethau ymweld â'r cartref drwy gydol y pandemig. Fodd bynnag, fel yr Aelodau eraill, rhaid inni gydnabod bod angen ein cefnogaeth arnynt hwy a'n holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a phartneriaid yn y trydydd sector hefyd. Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i wella'r gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru, sy'n cynnig gwasanaeth cyfrinachol ac am ddim, model haenog o gymorth iechyd meddwl sydd ar gael i bawb sy'n gweithio, yn astudio ac yn gwirfoddoli i GIG Cymru. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael hefyd i gefnogi pawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Wrth orffen, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal diwedd oes a chymorth profedigaeth o ansawdd uchel lle bynnag y bo angen. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ystod yr wythnosau nesaf i ymateb i'r pwyntiau niferus a wnaethpwyd gan Aelodau yn y ddadl heddiw, ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ehangach ym maes gofal diwedd oes. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.