Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn sgil y newyddion da y bydd pecyn ariannu newydd gwerth £6.2 miliwn ar gael ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yma, dwi yn gobeithio bydd ein cynnig ni yn cael ei basio yn unfrydol gan y Senedd heddiw.
Mae datganiad y Llywodraeth yn dweud bod y cyllid ar gyfer y llyfrgell genedlaethol yn cynnwys cyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu rhai argymhellion allweddol yr adroddiad teilwredig, a hefyd i gwrdd â diffygion ariannol i ddiogelu swyddi ac i fynd i'r afael â'r camau difrifol mae angen eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy. Fodd bynnag, mae angen sicrwydd ynglŷn â'r codiad yn y waelodlin sydd ei angen i'r dyfodol. Mater i'r Llywodraeth nesaf fydd hynny, beryg, ac mae pobl Cymru yn gwybod yn iawn pa blaid i'w chefnogi os ydyn nhw am weld ein sefydliadau pwysig yn dod yn rhan greiddiol ac annatod o fywyd ein cenedl ni.
Dwi wedi cael fy ysbrydoli gan y gefnogaeth sydd wedi cael ei dangos i'r llyfrgell genedlaethol dros y dyddiau diwethaf—miloedd wedi arwyddo deiseb; cefnogaeth wedi dod o bob cwr o'r byd. Ond mae hi'n resyn o beth bod angen yr ymgyrch yma yn y lle cyntaf. Mi ddylai ein sefydliadau cenedlaethol fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth gwlad, nid yn destun tro pedol munud diwethaf gan Weinidogion Llafur. Mae'n rhyfedd, onid yw, mai bore yma y daeth y cyhoeddiad am yr arian, ar drothwy cynnal pleidlais yn y Senedd prynhawn yma. Nid dyma ydy'r ffordd i drin un o drysorau cenedlaethol nodedig ein cenedl ni. Ond fe ddaeth y llyfrgell genedlaethol yn symbol o'n hunaniaeth fel pobl ac fel cenedl dros y dyddiau diwethaf yma. Fe ddangoswyd dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o werth y sefydliad a gwerth y trysorau sydd ynddo.
A gadewch inni oedi am funud a dathlu'r dreftadaeth gyfoethog, odidog sydd yn yr adeilad eiconaidd sy'n sefyll yn fawreddog uwchlaw tref Aberystwyth. Dyma gartref rhai o lawysgrifau mwyaf hynafol Ewrop, cyfreithiau Hywel Dda a Llyfr Du Caerfyrddin, 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd, lluniau gan Kyffin Williams, Tunnicliffe a Turner, dros filiwn o fapiau, Archif Sgrin a Sain Cymru. Mae'r rhestr yn faith, y trysorau mor werthfawr i dreftadaeth cyfoethog Cymru.
Mi ddylai cynnal a datblygu'r llyfrgell genedlaethol fod yn fater o flaenoriaeth i Lywodraeth ein gwlad, ond, yn hytrach, beth welson ni oedd tro pedol gwleidyddol gan Lafur yn sgil pwysau cynyddol o bob cyfeiriad. Dyma ni'n gweld y Llywodraeth yn gorfod ildio a cholli wyneb yn sgil dicter cynyddol y cyhoedd wrth i un o'n sefydliadau cenedlaethol gael ei esgeuluso a'i ddiystyru. Fe ddylid bod wedi cyhoeddi'r arian yma yn ôl yn yr hydref yn lle rŵan, ar yr unfed awr ar ddeg. Fodd bynnag, diolch i bawb ddaru godi llais a lobio am y penderfyniad a'r tro pedol yma.
Gaf i sôn yn gyflym am ddau benderfyniad arall y mae angen i Lafur eu newid? Bydd canolfan cymunedol a chaffi y Paddle Steamer yng Nghaerdydd yn cael ei dinistrio oherwydd penderfyniadau Llafur ar gyngor Caerdydd. Maen nhw'n bwriadu cael gwared â sefydliad hanesyddol a hwb cymunedol yn Butetown i wneud lle i ddatblygiad tai. Er i ymgyrchwyr ofyn am gael cadw lle i'r caffi ar y safle yma fel rhan o'r datblygiad, fe wrthodwyd hyn gan gyngor Caerdydd. Os ydyn ni wir am greu Cymru sy'n dathlu ein hanes a diwylliant yn eu holl amrywiaeth, mae'n rhaid cofio bod achub sefydliadau fel y Paddle Steamer yr un mor bwysig ag achub ein llyfrgell genedlaethol.
Mae Llafur hefyd yn ddigon hapus i adeiladu amgueddfa filwrol ym Mae Caerdydd, gan gael gwared ar yr unig ardal o dir gwyrdd sydd yna, er i filoedd ei wrthwynebu. Mae amgueddfa lwyddiannus yn darparu cysylltiad clir i brofiadau bywyd y trigolion lleol. Does gan Gaerdydd ddim hanes milwrol, felly mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: hanes pwy sydd yn cael ei ddweud yn yr amgueddfa filwrol yma? Yn lle amgueddfa filwrol, yr hyn sydd ei angen ydy amgueddfa genedlaethol ar gyfer hanes a threftadaeth pobl ddu a phobl o liw, a hynny yng nghanol y gymuned yn Butetown.
I gloi, dwi'n credu bod angen i'r Llywodraeth ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf yma. Mewn pwyllgor o'r Senedd ddydd Gwener diwethaf, fe ddaru Llafur wrthod fy ngwelliannau i fyddai wedi sicrhau bod pob plentyn yn cael dysgu am hanes ein gwlad yn ei holl amrywiaeth. Fe gefnogwyd y gwelliannau gan y Torïaid, ac rydw i'n diolch i Suzy Davies a Laura Jones am y gefnogaeth yna. Mae yna don o gefnogaeth yn adeiladu tu ôl i'r ymgyrch dysgu hanes Cymru, ac mi fydd gwelliannau Plaid Cymru yn cael eu trafod eto gennym ni i gyd yn y Senedd yma ar 2 Mawrth. Mae angen penderfyniad rŵan gan y Llywodraeth i gefnogi'r gwelliannau. Cafwyd ymgyrch gref i sicrhau dyfodol y llyfrgell genedlaethol. Mae pobl Cymru yn teimlo yr un mor gryf am ddysgu hanes Cymru. Gair i gall, Lywodraeth Cymru.