7. Dadl Plaid Cymru: Cyllido'r Llyfrgell Genedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 4:50, 3 Chwefror 2021

Mae'r Llywodraeth wedi bod yn gweithio'n agos efo’r llyfrgell genedlaethol a'r amgueddfa am gyfnod estynedig, er mwyn creu a deall darlun cyllidol clir o anghenion y sefydliadau. Rydyn ni hefyd wedi bod yn astudio'n fanwl yr adolygiad archwilio teilwredig. Mae'n bwysig i esbonio beth yw archwiliad teilwredig, oherwydd archwiliad annibynnol o safbwynt awdit ynglŷn â'r modd mae'r sefydliad yn gweithio ydy o, ac mae'r adroddiad yna wedi bod o ddefnydd mawr inni i gyrraedd ein penderfyniad. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd. A rhag ofn bod yna unrhyw gamddealltwriaeth, fe wnaethom ni dderbyn argymhelliad yr adroddiad yna ym mis Tachwedd, ac fe wnaethom ni symud i sefyllfa lle'r oedd yna gynnydd yn y cyfalaf, yn y gyllideb gyfalafol, yn dilyn argymhelliad yr adroddiad, ac mi fydd y gwaelodlin yna yn ddiogel. Wrth gwrs, does dim modd i mi, fel Gweinidog y mae ei gyfnod yn dod i ben, glymu Llywodraeth ar ôl etholiad i wybod beth fydd yn digwydd, ond yr egwyddor ydy ein bod ni'n sicr am ofalu bod cyllideb y ddau sefydliad cenedlaethol yma, o hyn ymlaen, yn safadwy ac yn sefydlog.

Mae'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma ar gyllid ein cyrff diwylliannol cenedlaethol yn gosod ymrwymiad y Llywodraeth Cymru hwn i'r llyfrgell ac i'r amgueddfa, ac yn dangos ein huchelgais i sicrhau eu ffyniant hirdymor. Mi fydd y cyllid ychwanegol o £6.2 miliwn dros ddwy flynedd yn gwarchod swyddi yn y ddau sefydliad ac yn sicrhau eu bod nhw'n hyfyw ac yn gallu wynebu'r heriau strategol sydd ganddyn nhw. Mae'r buddsoddiad yma yn dilyn, wrth gwrs, buddsoddiad sylweddol iawn yn Sain Ffagan, cyn imi gymryd cyfrifoldeb dros y materion yma fel rhan o'r amgueddfa genedlaethol, ac y mae o hefyd yn rhagweld buddsoddiad pellach, dwi'n gobeithio, yn y dyfodol, yn amgueddfa'r gogledd, yr amgueddfa lechi yn Llanberis. 

Dwi'n awyddus iawn i nodi fy mod i'n disgwyl gweld newidiadau sylweddol yn y llyfrgell wrth inni ddelio ag argymhellion eraill yr adolygiad teilwredig. Mae'n ddigon hawdd inni ganmol pwysigrwydd sefydliadau cenedlaethol a grëwyd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, ond mae'n allweddol bwysig bod y sefydliadau yna bellach yn addas ac yn effeithlon ac yn gymwys ar gyfer chwarter cyntaf a chanol yr unfed ganrif ar hugain, a dyna pam ein bod ni wedi buddsoddi mewn darpariaeth ddigidol fel un o'n blaenoriaethau ar gyfer y llyfrgell. Mi fydd y trafodaethau rhwng swyddogion y Llywodraeth a swyddogion y llyfrgell a staff y llyfrgell yn parhau, i sicrhau buddiannau a safle'r gweithlu presennol.

Mae'r cyllid ychwanegol a gynigir yn dod gyag amodau. Mae'r amodau yma, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, yn golygu bod yna fwy o ymroddiad i amrywedd, i gynaliadwyedd, i drawsnewid digidol, a'r gwaith o ymestyn allan i gymunedau ar hyd a lled Cymru. Nid adeilad ar ben bryn yn Aberystwyth yw llyfrgell genedlaethol; mae llyfrgell genedlaethol i fod yn adeilad a fydd yn gwasanaethu cenedl gyfan, ac rwy'n credu y bydd yna fodd inni ddysgu o berfformiad yr amgueddfa yn y cyfeiriad yna. Mae gan y llyfrgell gyfle arbennig, dwi'n meddwl, i gyfrannu i ddod â ni mas o sefyllfa gyda'r clwy cyhoeddus dychrynllyd yma.

Dwi ddim yn ymddiheuro am ein bod ni wedi cyhoeddi'r datganiad a wnaethom ni am 9 o'r gloch y bore yma. Mae yna bwysau eithriadol ar gyllidebau pob Llywodraeth. Mae’r penderfyniad ar ariannu ychwanegol yn rhan o ddarlun ehangach o lawer. Rydyn ni'n wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus difrifol. Rydyn ni'n falch ein bod ni wedi gallu dod i sefyllfa o gytundeb llwyr yn y Llywodraeth, a dwi'n gobeithio y bydd hyn yn golygu y byddwn ni'n gallu parhau i ddibynnu ar gefnogaeth drawsbleidiol ynglŷn â dyfodol y sefydliad hwn.

Un gair bach o rybudd—nid gair o gerydd. Fe dreuliais i'r rhan fwyaf o fy mywyd gwleidyddol mewn gwrthbleidiau. Nid oedd neb yn gofyn imi flaenoriaethu dim byd, ond mi ges i un neu ddau gyfnod pan roeddwn i'n gyfrifol am gyrff cyhoeddus ac mi ddysgais i gymaint yr adeg honno. Mae'n ddigon hawdd gwneud addewidion am gynyddu gwariant a pheidio â dweud o ble mae'r arian yn dod ar gyfer y gwariant ychwanegol. Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n bod yn onest ynglŷn â hyn ar bob achlysur.

Mi fyddwn ni'n parhau i weithio gyda’r llyfrgell i ddatblygu’r cynllun gweithredu, gan ymateb i’r adolygiad teilwredig. Ac o safbwynt yr ymgynghoriad presennol, mi fyddwn ni'n parhau’r drafodaeth ynglŷn â'r camau nesaf. Dwi'n ddiolchgar i chi a gyfrannodd at y ddadl heddiw. Mae wedi bod yn un o'r dadleuon mwyaf deallus dwi wedi'u clywed yn y Senedd o ran ei chyfeiriadaeth ysgolheigaidd ac allanol. Os ydy'r hyn rydych chi'n ei ystyried yn wleidyddol i fod yn argyfwng i'r llyfrgell wedi ysbrydoli dadl ddeallus yn Senedd Cymru, mae yna ryw ddaioni wedi dod o'r sefyllfa yma. Diolch ichi am eich gwrandawiad.