7. Dadl Plaid Cymru: Cyllido'r Llyfrgell Genedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:46, 3 Chwefror 2021

Gall sŵn ennill llyfrgell, fe ymddengys. Rwy'n falch iawn bod cyd-destun ein dadl wedi newid sut gymaint dros nos. Mae ennill y ddadl hon yn arwyddocaol nid yn unig er mwyn gwarantu swyddi ein llyfrgell genedlaethol, er bod y rhain yn amlwg yn ddifrifol bwysig, ond mae hefyd yn gam tuag at ddiogelu dyfodol ein diwylliant. Mae dyfodol y llyfrgell gen yn fater o bwys cenedlaethol. Rwyf wedi derbyn e-byst o bob cwr o'n gwlad am hyn—mae wedi cydio yng nghalonnau cymaint o bobl. Mae Cymdeithas Hanesyddol Gelligaer wedi ysgrifennu ataf gan ddyfynnu erthygl o'r Cambrian News and Merionethshire Standard o fis Ebrill 1915: