Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 3 Chwefror 2021.
Mae'r staff, yn yr un modd, wedi gostwng yn eu niferoedd o 290 i 224, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cefnogi'r llyfrgell genedlaethol, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi gwneud hynny am y ddwy flynedd nesaf, ond mae angen gwneud hyn yn barhaol.
Hoffwn orffen gydag arwyddair Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth, ond hefyd, i mi, Nid Byd, Byd Heb Lyfrgell Genedlaethol.