Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 3 Chwefror 2021.
Brawddeg neu ddwy olaf, ac rwy'n gwerthfawrogi eich goddefgarwch. Fel y mae pawb wedi dweud, mae'r ddadl hon yn dangos pwysigrwydd hanfodol y llyfrgell genedlaethol i'n bywyd cenedlaethol, a'n holl sefydliadau cenedlaethol. Mae'r buddsoddiad i'w groesawu, ond ni ddylai'r staff fod wedi cael eu rhoi drwy hyn. Rwy'n annog y Senedd hon i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr a'n cynnig gwreiddiol, ac nid cynnig y Llywodraeth, sydd ond yn datgan yr hyn sy'n amlwg. Diolch yn fawr.