Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn dadl ragorol at ei gilydd. Nid af i ailadrodd sylwadau fy nghyd-Aelodau yn yr amser byr sydd ar ôl i mi yn y ddadl hon, sylwadau rwy'n amlwg yn cytuno â hwy. Hoffwn ymateb i rai o'r pwyntiau y mae Aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill wedi'u gwneud.
Rhaid imi ddechrau gyda Mick Antoniw. Byddwn yn dweud wrtho fod y penderfyniadau hyn yn faterion gwleidyddol, fod y blaenoriaethau hyn—. Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud yn llwyr â blaenoriaethau. A pha bryd bynnag y bydd plaid lywodraethol yn cyhuddo gwrthblaid o chwarae gwleidyddiaeth, gallwch ddweud bod y blaid lywodraethol honno ar y droed ôl. Nawr, fel pawb ohonom mae'n siŵr, rwyf wrth fy modd gyda'r cyhoeddiadau sydd wedi'u gwneud heddiw. Ond hoffwn ddweud wrth Mick: sut y mae ef, fel rhywun sy'n gadarn ei gefnogaeth i undebau llafur, yn teimlo am y trallod y mae'r staff a'r llyfrgell wedi'i wynebu'n ddiangen gan Lywodraeth a allai fod wedi gwneud y penderfyniad hwn wythnosau, yn sicr, os nad misoedd, yn ôl? Ac nid wyf am gymryd unrhyw bregeth ganddo ef nac unrhyw Aelod arall o'r Blaid Lafur ynglŷn â sut i ymgyrchu fel gwrthblaid. Pan fydd yn rhaid i lyfrgelloedd a sefydliadau diwylliannol gael eu newid gan gynghorau sir Plaid Cymru, gallaf ei sicrhau bod Aelodau Llafur yn ymgyrchu'n frwd yn ei erbyn, fel rydym ni wedi ymgyrchu o blaid y llyfrgell—ac maent yn iawn i wneud hynny, oherwydd gwaith yr wrthblaid yw gwrthwynebu.
Hoffwn ategu llawer o'r hyn y mae David Melding wedi'i ddweud. Nid wyf am ailadrodd y cyfan. Credaf ei fod yn gywir fod proses yr adolygiad pwrpasol wedi bod yn rhagorol ac yn ddadlennol iawn, a'i ganmoliaeth i arloesedd yn y llyfrgell—ac yma rwy'n cytuno â Mick Antoniw ynglŷn â'r gallu i'r llyfrgell arloesi ymhellach eto a chyfrannu at addysg ein pobl ifanc, yn enwedig yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd. Rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedodd David Melding mai enaid y genedl yw'r llyfrgell: beth ydym ni, beth oeddem ni, a beth fyddwn ni. Wrth inni edrych ymlaen, credaf fod angen inni gofio hynny. Fe'm cyffyrddwyd gan yr hyn a ddywedodd Darren Millar am rôl y llyfrgell fel partner, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'i ganmoliaeth i'r ffordd y maent yn gwarchod ein treftadaeth, a sut y maent yn sicrhau bod y dreftadaeth honno ar gael. Gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn yn eu galluogi i wneud mwy fyth o hynny.
Rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am ei chyfraniad. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno bod nifer y rhai sydd wedi llofnodi'r ddeiseb honno mewn cyfnod mor fyr yn dangos pa mor bwysig yw'r llyfrgell i bobl ar hyd a lled Cymru. Nid adeilad ar fryn yn Aberystwyth yn unig yw hwn, rwy'n cytuno â'r Gweinidog ynglŷn â hynny. Dyma ran ganolog o'n diwylliant cenedlaethol; trysor i ni i gyd, ble bynnag rydym yn byw. Gwn y bydd y llyfrgell am ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt yn awr i wneud rhai o'u casgliadau'n fwy hygyrch drwy fwy o ddigideiddio a mwy o bartneriaethau gyda llyfrgelloedd lleol ac amgueddfeydd lleol.
Nid wyf am anghytuno â chyfrif y Dirprwy Weinidog o'r hyn sydd wedi digwydd, ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod adroddiad drafft yr adolygiad pwrpasol wedi bod ym meddiant y Llywodraeth ers misoedd lawer cyn iddynt ei gyhoeddi ym mis Tachwedd. Er gwaethaf y pandemig, ac nid oes neb yn gwadu'r pwysau y mae'r pandemig wedi'i roi ar y Llywodraeth—. Er gwaethaf y pandemig, cawsant ddigon o amser i wneud y penderfyniad ynglŷn â'r adnoddau ychwanegol hyn. Nid oedd angen iddi fynd yn funud olaf.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen drwy ddweud bod yr adnoddau ychwanegol hyn i'w croesawu'n fawr wrth gwrs. Maent wedi prynu lle i anadlu i'n sefydliadau cenedlaethol, ac mae hynny'n lle i anadlu y bydd angen i'r Llywodraeth nesaf ei ddefnyddio i weithio gyda'r llyfrgell a chyda'n holl sefydliadau cenedlaethol i sicrhau buddsoddiad priodol a dyfodol cynaliadwy. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu bod arnom angen strategaeth genedlaethol ar gyfer ein sefydliadau cenedlaethol, ac mae angen inni fod yn cynllunio ar gyfer eu dyfodol hirdymor. Yn hynny o beth, mewn Llywodraeth byddem yn ceisio datblygu'r math o gonsensws trawsbleidiol y credaf ein bod wedi gweld ei ddechrau yma heddiw.
Ddirprwy Lywydd—