Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 3 Chwefror 2021.
Wedi'r cyfan, pan sefydlwyd y llyfrgell fe'i cefnogwyd gan filoedd o bobl dosbarth gweithiol, gan gynnwys glowyr y Cymoedd. Diolch byth bod y frwydr wedi ei hailennill yn wyneb philistiaeth y Llywodraeth, fel nad yw aberthau gwreiddiol y bobl yna yn troi'n ofer, oherwydd, Dirprwy Lywydd, nid lle'r Llywodraeth fyddai wedi bod i gondemnio'r llyfrgell; mae hi'n eiddo i bobl Cymru, a daethom mor agos at golli hynny.
Ystordy yw ein llyfrgell, lle saff i storio rhyfeddodau—cyfreithiau Hywel Dda, Llyfr Du Caerfyrddin, llyfrau Aneirin a Taliesin, ein cof casgliadol, ein sylfaen a'n goleuni. Nid ein trasiedi ni'n unig fyddai colli y fath drysorau wedi bod—colli ein cysylltiad gyda'n gorffennol, a thorri cysylltiad gyda'r cenedlaethau sydd i ddod, diffodd y golau a dinistrio llwybr yn ôl. Pa mor agos ddaethom ni at weld diffodd y golau hwnnw, canys bod llyfrgelloedd yn ganhwyllau hefyd? Pan losgwyd y llyfrgell yn Alexandria gan farbariaid, diffoddwyd goleuni am ganrifoedd. Fel dywed y bardd Emyr Lewis:
'Aeth gwybodaeth, aeth bydoedd—aeth hanes / doethineb canrifoedd / aeth y wawr, a phob gwerth oedd / i’r gwyll dilyfrgelloedd.'
Mae pobl Cymru wedi llwyddo i ennill gwobr amhrisiadwy yma. Diolchwn iddynt. Fe lwyddon nhw i ddwyn perswâd ar y Llywodraeth i gadw'r golau ymlaen. Mae'r ffwlbri wedi dangos pa mor fregus oedd y golau. Daethom mor agos at fod, fel y rhybuddiodd Huw Williams o Undod, yn wlad a gollodd ei gwerthoedd. Daethom mor agos at ddietifeddu cenedlaethau'r dyfodol oherwydd dadl fiwrocrataidd. Diolch byth bod goleuedigaeth wedi ennill y dydd. Ni ddylai Llywodraeth Cymru gymryd ein hetifeddiaeth yn ganiataol byth eto.