Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 3 Chwefror 2021.
Dyma ni'n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.