10. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-2022

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:01, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n bleser gennyf agor y ddadl hon y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Ers inni gael y cyfle cyntaf i drafod y gyllideb ddrafft yn y Senedd, mae'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Senedd wedi craffu ar ein cynlluniau gwariant. O ystyried yr amgylchiadau digynsail yr ydym wedi'u hwynebu, hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r pwyllgorau eraill am eu cydweithrediad wrth gynnal gwaith craffu mewn cyfnod wedi'i gwtogi.

Cyn imi roi myfyrdodau cynnar ar y themâu allweddol sy'n deillio o graffu, hoffwn amlinellu'r asesiad diweddaraf o'r cyd-destun sy'n llywio ein paratoadau ar gyfer y gyllideb. Er bod canlyniad 'dim cytundeb' wedi'i osgoi, mae'r cytundeb gyda'r UE yn creu rhwystrau masnach newydd i fusnesau Cymru, colli hawliau dinasyddion Cymru ac economi lai yng Nghymru hyd at 6 y cant dros 10 i 15 mlynedd, yn ôl arbenigwyr annibynnol. Ochr yn ochr â'r pandemig, mae hyn yn arwain at economi wannach ac yn gwaethygu rhagolygon cyllidol ar gyfer Cymru. Cytunwn â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol nad yw'n briodol tynhau polisi cyllidol yn y tymor byr, ond mae dull Llywodraeth y DU o ymdrin â hyn ac ailadeiladu cyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn aneglur. Mae'r argyfwng hinsawdd hefyd yn parhau i fod yn her sylweddol. Er bod y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi nodi y bydd y sector preifat yn ysgwyddo costau sylweddol, mae'n anochel y bydd goblygiadau o ran gwariant cyhoeddus.

Mae'r setliad cyllideb siomedig o gylch gwariant blwyddyn Llywodraeth y DU a'r addewidion a dorrwyd o ran cyllid ar ôl yr UE hefyd wedi ein gadael yn waeth ein byd y flwyddyn nesaf, gyda'r risg y bydd penderfyniadau llywodraeth y DU munud olaf yn parhau. Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o broblemau parhaus dull anhrefnus Llywodraeth y DU o ymdrin ag amserlen ei chyllideb a'r effeithiau sylweddol ac afresymol y mae hyn wedi'u cael ar ein paratoadau cyllidebol ein hunain. Rwyf hefyd yn croesawu'r galwadau gan y pwyllgor i Lywodraeth y DU roi inni'r hyblygrwydd i'n galluogi i reoli ein cyllideb yn y ffordd fwyaf effeithiol i Gymru.

Mae'n anodd gweld adeg pan fyddai'r angen am yr hyblygrwydd ychwanegol hwn yn fwy, sydd hefyd wedi'i gefnogi gan alwadau annibynnol am yr hyblygrwydd hwn gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi'r tegwch, yr hyblygrwydd a'r eglurder sydd eu hangen arnom i Gymru, gan gynnwys mater ariannu ffermydd ar ôl yr UE, y gronfa ffyniant a rennir, llifogydd ac adferiad y tomenni glo. Ni fyddaf ychwaith yn gadael i'r cyd-destun anodd hwn dynnu sylw oddi ar ein hymrwymiad cyson i ddarparu tryloywder i gefnogi gwaith craffu ystyrlon ar ein cynigion gwariant. Byddwn yn ceisio adeiladu ar y camau ychwanegol yr ydym wedi'u cymryd eleni i ddarparu tryloywder llawn ac i barhau â'r mesurau hyn i'r flwyddyn i ddod. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl, yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth, sef y diwrnod ar ôl inni gyhoeddi ein cyllideb derfynol. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn canolbwyntio ar le y gallwn gael yr effaith fwyaf, gan gydbwyso'r angen i gadw hyblygrwydd i'r flwyddyn nesaf. Rwy'n falch ein bod wedi sicrhau'r manteision gorau gyda'r cyllid sydd ar gael i ddiogelu'r hyn sydd bwysicaf, a mynd ar drywydd y newid sydd nid yn unig yn bosibl, ond sy'n hanfodol.

Arweiniwyd ein paratoadau gan ein wyth blaenoriaeth ailadeiladu, wedi'u llunio gan fwy na 2,000 o ymatebion cyhoeddus ac arbenigwyr blaenllaw Cymru a rhai rhyngwladol. Mae'r cynllun uchelgeisiol hwn yn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau tymor byr, ochr yn ochr â darparu'r sylfeini ar gyfer ein hadferiad tymor hwy.

Rydym yn buddsoddi mewn cyflogaeth ac yn y farchnad lafur, gan gynnwys hwb o £5.4 miliwn ar gyfer cyfrifon dysgu personol i helpu gweithwyr ar incwm isel i uwchsgilio ac ailhyfforddi. Rydym yn buddsoddi yn ein pobl ifanc, grwpiau difreintiedig, ac mewn addysg, gan gynnwys y £176 miliwn yr ydym yn ei ddarparu i awdurdodau lleol, £8.3 miliwn ar gyfer diwygio'r cwricwlwm, a £21.7 miliwn ar gyfer pwysau demograffig addysg uwch ac addysg bellach. Rydym yn buddsoddi mewn tai gyda £40 miliwn ar gyfer y grant cymorth tai i gyflawni ein huchelgais o roi terfyn ar ddigartrefedd a £37 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi'r gwaith o adeiladu cartrefi fforddiadwy a chynaliadwy. Rydym yn buddsoddi yng nghanol trefi, gan gynnwys £3 miliwn ychwanegol i gefnogi'r stryd fawr a chanol trefi a dinasoedd, a £5 miliwn i gefnogi ein gweithgareddau adfywio ehangach drwy ein rhaglen benthyciadau canol tref. Ac rydym yn buddsoddi yn ein hinsawdd, ein tir a'n hadnoddau naturiol, gan adeiladu ar y pecyn cyfalaf sylweddol gwerth £140 miliwn a ddarparwyd gennym yn 2020-21, gan gynnwys £5 miliwn ychwanegol ar gyfer bioamrywiaeth a'r goedwig genedlaethol, a £26.6 miliwn ychwanegol i'r economi gylchol i wella ailgylchu yng Nghymru a mynd i'r afael ag annhegwch cymdeithasol. Rydym yn buddsoddi mewn gweithio a theithio, gan gynnwys £20 miliwn ychwanegol ar gyfer prosiectau teithio llesol, a chyfanswm o £275 miliwn yn ein rheilffyrdd a'n metro. Rydym yn buddsoddi yn ein heconomi sylfaenol a busnesau Cymru, gan gynnwys £3 miliwn arall i ddarparu cronfa economi sylfaenol i gefnogi lledaenu a chynyddu arferion da yn gyflym, ac i ddarparu swyddi yng nghanol ein cymunedau lleol. Rydym yn buddsoddi yn ein GIG, gan ddarparu £420 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi twf y GIG ac adferiad ar ôl y pandemig.

Rwyf hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r camau cadarnhaol yr ydym wedi'u cymryd ar newid hinsawdd a'r diwygiadau i'n prosesau cyllideb a threth. Drwy ein cynllun gwella'r gyllideb, rydym eisoes wedi amlinellu sut y bwriadwn fwrw ymlaen â'r diwygiadau hyn dros y pum mlynedd nesaf, ac rwy'n croesawu'r ymgysylltu parhaus ar yr agenda bwysig hon. Roeddwn hefyd yn falch bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn ei gwaith craffu wedi croesawu ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ein buddsoddiad mewn adfywio canol trefi a dinasoedd, a'n buddsoddiad mewn tai a digartrefedd. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r comisiynydd wrth inni ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol.

Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o bwysigrwydd ariannu iechyd a llywodraeth leol; fel yr amlinellais o'r blaen, mae'r rhain yn feysydd sydd ar flaen fy ystyriaethau ar gyfer cyllid COVID-19 yn y gyllideb derfynol ar 2 Mawrth. Rwyf hefyd yn ystyried y meysydd eraill a godwyd gan y pwyllgor; byddaf i a'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac adroddiadau eraill pwyllgorau'r Senedd cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar 9 Mawrth.

Felly, i gloi: a ninnau wedi wynebu'r amgylchiadau mwyaf heriol yr ydym wedi'u hwynebu ers datganoli, rwy'n falch bod y gyllideb ddrafft hon nid yn unig yn darparu sylfaen gadarn i'r weinyddiaeth nesaf, ond yn diogelu, yn adeiladu, ac yn newid, i sicrhau Cymru fwy llewyrchus, mwy cyfartal a gwyrddach. Diolch.