Part of the debate – Senedd Cymru am 7:02 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r cyhuddiad yr ydym ni newydd ei glywed gan Alun Davies yn erbyn Llywodraeth Cymru ac, yn wir, Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y cyfyngiadau yr ydym yn eu hwynebu yn y ddadl hon. Mae'n debyg i ddadl ynglŷn â symud y cadeiriau haul ar y Titanic wrth i economi Cymru ruthro tuag at y mynydd iâ, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, mae cyllideb y Llywodraeth, wrth gwrs, wedi ei chyfyngu gan y cyfyngiadau a osodir gan Lywodraeth y DU, ond hefyd am fod iechyd ac addysg yn cymryd y gyfran fwyaf o bell ffordd o gyfanswm y gyllideb yng Nghymru, dros 75 y cant, felly mae terfyn ar y gwariant dewisol sydd ar gael i'r Llywodraeth y gallwn ni ei drafod y prynhawn yma.
Y realiti sylfaenol ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yw bod Cymru, yn ogystal â bod yn hŷn ac yn fwy sâl na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae hefyd yn dlotach. Rydym ni ar waelod tablau incwm y DU am godi refeniw er mwyn talu am y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir—llai na £10,000 y pen, o'i gymharu â bron i £20,000 y pen yn Llundain. Fel y nododd Adam Price yng nghwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, roedd gan Lywodraeth Cymru uchelgais amlwg i roi terfyn ar dlodi tanwydd erbyn 2018 a rhoi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020, ac mae wedi methu'n gyfan gwbl yn y ddau beth hynny.
Ar y naill law, mae'r gyllideb yn rhy fach i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni i gyd eu heisiau yng Nghymru, ac yn ail, nid oes gan Lywodraeth Cymru yr ysgogiadau treth a pholisi mewn cynifer o feysydd sy'n ofynnol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i faint yr economi, fel y nododd Alun Davies. Mae'n rhaid i ni naill ai godi mwy mewn trethi neu mae'n rhaid i ni dyfu'r economi, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd iawn, iawn i wneud y naill na'r llall. O fewn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddileu bron i £500 miliwn o ddyledion y GIG sydd wedi eu cronni ers 2013, neu fel arall byddai'r gwasanaeth iechyd wedi bod mewn cyflwr gwaeth fyth nag ydyw ar hyn o bryd.
Mewn ffyrdd eraill hefyd, mae gan Lywodraeth Cymru ysgogiadau pŵer y mae'n mynnu eu defnyddio mewn ffordd sy'n wrthgynhyrchiol o'i safbwynt ei hun o ran gwella'r economi a chynyddu lles pobl Cymru. Er enghraifft, o ran polisi amgylcheddol—polisi gwyrdd ar ynni adnewyddadwy, ac ati—effaith ei pholisi yw ei bod yn defnyddio ei phwerau i niweidio busnesau ac arwain y tlawd at fwy o dlodi ac, ar yr un pryd, yn arllwys arian i bocedi datblygwyr sy'n filiwnyddion, sydd wedi eu lleoli yn Lloegr yn ddieithriad. Ac yn y cyfamser, mae'n rhaid i bobl dlotach Cymru mewn lleoedd fel Blaenau Gwent dalu biliau trydan rhy uchel er mwyn cadw'n gynnes yn y gaeaf. Nawr, mae trethi a thaliadau gwyrdd yn cyfrif am gyfartaledd o £200 y cartref ar fil trydan pawb.
Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r ddadl hon yn ei ddangos yw nad yw'r datganoli rhannol hwn yn gweithio, ac rwyf i o'r farn na all weithio oherwydd na fydd gwariant cyhoeddus sy'n cael ei gyfyngu gan Drysorlys y DU byth yn ateb ymarferol i broblemau Cymru. Ar y naill law, ni fydd San Steffan yn rhoi mwy o arian i Gymru. Pam byddai Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan byth yn bwriadu rhoi mwy o arian i Lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd? Wel, yr ateb yw na fydd. Pan oedd gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan, ni welodd hynny yn newid fawr o ddim byd ychwaith. Mae fformiwla Barnett yn parhau fel yr oedd ym 1978 ac mae Cymru dan anfantais sefydliadol oherwydd hynny.
Ar y llaw arall, mae annibyniaeth, yn fy marn i, yn ffantasi cyllidol. Mae'r bwlch cyllidol yng Nghymru—y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae Cymru'n ei godi neu'n gallu ei godi mewn trethi a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wario mewn gwirionedd ar bob lefel yng Nghymru—yn 25 y cant o incwm cenedlaethol Cymru, £4,300 y pen. Pe byddai gennym ni annibyniaeth, byddai hynny yn arwain naill ai at gwymp ar unwaith yng ngwariant y Llywodraeth yng Nghymru neu gynnydd enfawr mewn trethi, er bod Rhun ap Iorwerth eiliad yn ôl yn lladd ar annhegwch Llywodraeth y DU yn gorfodi cyfyngiadau benthyca ar Lywodraeth Cymru. Wel, rwy'n gwybod bod ganddo awydd diddiwedd am arian trethdalwyr Lloegr, ond nid wyf i'n credu y byddai trethdalwyr Lloegr yn barod i'w fodloni. Felly, y realiti yw bod annibyniaeth Cymru yn sicr o arwain at y math hwnnw o wasgfa yr wyf i newydd ei chrybwyll.
Ar y llaw arall, mae yn ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o arian, mewn rhai ffyrdd, i'w wastraffu. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi gwario £114 miliwn ar ymchwiliad yr M4 o amgylch Casnewydd, er i'r Prif Weinidog ddweud y byddai wedi nacáu'r penderfyniad i weithredu gwelliannau i'r M4 ni waeth beth y byddai'r ymchwiliad wedi ei ddweud. Ac—