Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch, Llywydd. Mae ein gwelliant yn galw ar i'r Senedd hon gydnabod nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn galluogi Cymru i ailgodi'n gryfach ac adfer ar ôl pandemig COVID-19. Mae'r term 'ailgodi'n gryfach' yn cydnabod yr angen am strategaeth dwf yn sgil coronafeirws sy'n darparu swyddi, sgiliau a seilwaith ym mhob cwr o Gymru ac yn mynd i'r afael â heriau mawr heb eu datrys yn ystod y tri degawd diwethaf, gan gynnwys 22 mlynedd o Lywodraethau Llafur datganoledig Cymru. Fel y dywedodd Prif Weinidog y DU, pan gyhoeddodd hefyd fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cyllid i gyflymu prosiectau seilwaith yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r Llywodraethau datganoledig i nodi lle y gallwn ni roi rhawiau yn y ddaear, adeiladu ein cymunedau a chreu swyddi'n gyflymach i ddinasyddion ledled y Deyrnas Unedig. Mae'n destun gofid felly bod rhethreg gyhoeddus y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn hytrach wedi canolbwyntio'n gwbl negyddol ar fwrw'r cyfrifoldeb yn adweithiol, gan geisio diawleiddio Llywodraeth y DU a'i beio am eu holl fethiannau eu hunain.
Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at fethiannau Llywodraethau Llafur Cymru un ar ôl y llall wrth reoli ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Yn y flwyddyn cyn y pandemig, dyblodd amseroedd aros y GIG yng Nghymru, ac mae Cymru wedi cadw'r cyfraddau tlodi uchaf a'r cyflog isaf o holl wledydd y DU drwy gydol datganoli ers 1999. Mae gwariant Llywodraeth Cymru wedi cynyddu 4.2 y cant i £22.3 biliwn, 83 y cant a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Er gwaethaf honiadau Llywodraeth Cymru i'r gwrthwyneb, nododd dadansoddiad cyllidol Cymru y mis hwn gan Brifysgol Caerdydd £655 miliwn o gyllid COVID-19, nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i ymrwymo eto, gan godi i £760 miliwn, gan gynnwys y gwariant sy'n bodoli eisoes ac heb ei ddyrannu yn ei chynlluniau cyllideb derfynol.
O ran llywodraeth leol, er gwaethaf effaith COVID-19, bydd awdurdodau lleol yn cael cynnydd llai yn eu setliadau na'r flwyddyn ariannol hon. Unwaith eto, mae cynghorau'r gogledd yn cael cynnydd cyfartalog is na'r de, ac unwaith eto mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gwrthod cyllid gwaelodol i ddiogelu cynghorau fel Wrecsam a Cheredigion, y disgwylir iddynt ymdopi â chynnydd o ddim ond 2.3 y cant ac 1.96 y cant yn y drefn honno. Fel y nododd arweinydd cyngor Sir Fynwy, mae'n bwysig mynd i'r afael â'r pwysau gwirioneddol mewn llywodraeth leol a bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r
'arian canlyniadol sylweddol yn llifo o gyhoeddiadau cyllid Llywodraeth y DU, gyda chyfran ohono eto i’w ddyrannu o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru.'
Fel y nododd arweinydd cyngor Sir Ddinbych,
'mae heriau gwasanaeth cyhoeddus a chyllidebol yn parhau, yn enwedig i’r awdurdodau hynny a fydd yn derbyn cynnydd is na’r cyfartaledd.'
Mae'r trydydd sector ac elusennau yng Nghymru, sydd ar flaen y gad yn ymateb Cymru i'r pandemig, gan arbed miliynau i'r sector cyhoeddus, wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn incwm sy'n cefnogi gwasanaethau hanfodol. Dywedodd ymateb Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru fod y sector gwirfoddol yn parhau i fod ag angen mwy o adnoddau i ymateb i'r galw cynyddol am ei wasanaethau.... Mae gan drydydd sector ffyniannus ran hanfodol i'w chwarae yn yr agenda atal, yn arbed arian yn ogystal â gwella bywydau, a bod yn rhaid i gydgynhyrchu gwasanaethau chwarae rhan allweddol yn hyn.
Wrth ymateb i'r gyllideb ddrafft hon, nododd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ansicrwydd ynghylch o ble y byddai cymorth ariannol i fusnesau yn dod, a disgrifiodd gyflwyno pecynnau cymorth busnes fel rhai 'tameidiog' a mynegodd bryder nad yw'r gyllideb ddrafft hon yn rhoi digon o gymorth i bobl hunangyflogedig.
Ar ôl imi arwain y ddadl ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd hwn £3 miliwn yn ychwanegol i gefnogi hosbisau yn ystod y flwyddyn ariannol hon—i'w groesawu, ond ble mae gweddill yr arian ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i fwy o gyllid ar gyfer hosbisau yn Lloegr? A beth am y flwyddyn nesaf?
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £2.25 miliwn hwyr ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ond rhoi plastr ar friw yn unig yw hwn ac ni fydd yn atal diswyddiadau.
Mae Llywodraeth Cymru yn honni'n ddrygionus fod Llywodraeth y DU wedi torri addewidion ynghylch cyllid amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru. Gwarantodd Llywodraeth y DU y gyllideb flynyddol bresennol i ffermwyr ym mhob blwyddyn Senedd y DU. Pan wnaed yr ymrwymiad hwn, cyfanswm y cymorth fferm a roddwyd i ffermwyr Cymru oedd £337 miliwn. Ar gyfer 2021-22, mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid newydd ar ben y £97 miliwn sy'n weddill o gyllid yr UE, gan sicrhau y gall Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu £337 miliwn o gymorth i ffermwyr Cymru y flwyddyn nesaf, os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur i weithredu cynllun adfer i Gymru. Mae'n destun pryder mawr, felly, nad yw'r gyllideb ddrafft hon yn darparu'r chwyldro ariannol y mae mawr ei angen i gyflawni hyn.