Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch, Lywydd. Mae'r rhain yn amgylchiadau eithriadol iawn. Mae COVID a'r pandemig yn rhoi pwysau digynsail ar wariant cyhoeddus yng Nghymru ac, i ychwanegu at y cymhlethdod sy'n cael ei wynebu o ran cyllido i ddelio efo hynny mae amseru cyhoeddiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyraniadau ac ar benderfyniadau cyllidol yn ei gwneud hi'n anodd iawn i Lywodraeth Cymru, a ninnau fel Senedd, i gynllunio ymlaen, hyd yn oed am y flwyddyn sydd o'n blaenau ni, heb sôn am ein dymuniad ni i allu cynllunio ymhellach na hynny ac yn y tymor hirach.
Drafft sydd gennym ni yn fan hyn. Mae cyllido terfynol a chyflawn wedi mynd yn amhosib bron. Ychwanegwch at hynny y diffyg hyblygrwydd fiscal sydd gennym ni, y cyfyngiad hurt ar bwerau gwariant a benthyg, y diffyg hyblygrwydd ar ddefnyddio arian wrth gefn ac ati. Yn hyn o beth, mi ydw i a'r Gweinidog yn gweld lygad yn llygad, fel yr ydym ni wedi ei ddweud yn y Siambr a'r Siambr rithiol yma droeon. Ond gadewch inni alw'r diffyg hyblygrwydd yma beth ydy o: dyma enghraifft glir o'r Deyrnas Unedig yma ddim yn gweithio i Gymru ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n ystyried anghenion Cymru.
Nid ein cyllideb ni ym Mhlaid Cymru ydy hon, wrth gwrs. Cyllideb y Llywodraeth Lafur ydy hi. Rydym ni'n credu bod sawl blaenoriaeth yn cael eu colli a dyna pam na allwn ni ei chefnogi hi. Mae yna fethiant i gefnogi llywodraeth leol yn sicr. Oes, mae yna gynnydd yn y dyraniad, ond nid y math o gynnydd sydd yn tynnu pwysau oddi ar gynghorau sydd wedi perfformio yn arwrol dros y flwyddyn ddiwethaf ac sydd wedi wynebu pwysau digynsail, ac sy'n parhau i wneud hynny. Y realiti ydy bod yr arian ychwanegol wedi cael ei lyncu cyn cyrraedd y cynghorau i bob pwrpas. A rhowch lawr yn ei le ar gyfer y cynghorau hynny sydd yn gweld y cynnydd lleiaf. Mae yna golli cyfle yn y fan hyn yn sicr. Mae yna golli cyfle i dynnu pwysau oddi ar drethdalwyr lleol hefyd. O dan yr amgylchiadau yma dwi'n meddwl bod yr achos yn gryf i ystyried rhewi treth cyngor. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud hynny. Dydy o ddim yn rhywbeth i'w wneud yn ysgafn o ran, hynny ydy, mae yna gost i hynny. Ond rydym ni'n credu bod yr arian yno ar hyn o bryd i'w wneud, ac mai dyma'r amgylchiadau i ystyried gwneud hynny. Wrth gwrs, mae eisiau chwilio am ffyrdd llawer tecach o gyllido llywodraeth leol yn yr hir dymor. Y tlotaf sydd yn talu cyfran fwyaf o'u hincwm ar dreth cyngor.
Ac a gaf i droi at ein gwelliant ni yn benodol yn fan hyn? Eto, wedi ei anelu at helpu y tlotaf. Mae'r pandemig wedi dangos anghydraddoldebau ein cymdeithas ni yn glir iawn, iawn. Felly, dewch—cyllidwch ginio ysgol am ddim i bob plentyn mewn cartrefi sydd yn derbyn credyd cynhwysol. Mae yna arian sylweddol ar ôl o'r arian sydd wedi dod yn ychwanegol ar gyfer delio â'r pandemig yma—arian sydd heb gael ei glustnodi eto. Mi wnaeth grŵp gweithredu ar dlodi plant y Llywodraeth yma ei hun bwysleisio bod ehangu cinio ysgol am ddim yn un o'r gweithredoedd mwyaf effeithiol y gall Llywodraeth ei gael er mwyn lliniaru tlodi plant yma yng Nghymru. Felly, gweithredwch.
Mae'r Ceidwadwyr, wrth gwrs, yn dweud, 'Gwariwch bob dimai o'r arian sydd heb gael ei glustnodi eto yfory nesaf.' Does gen i ddim amheuaeth mai ei wario fo'n dda ydy'r flaenoriaeth, nid ei wario fo mor gyflym â phosib. Ond, wedi dweud hynny, mi ydym ni angen gweld yr arian yn llifo i helpu busnesau sydd wir ei angen o, i helpu efo'r pwysau ar y gwasanaethau iechyd a gofal, ac, ie, i helpu y mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni.
Dwi'n edrych ymlaen at gyfnod ar ôl yr etholiad lle gall Plaid Cymru, dwi'n gobeithio, roi cychwyn ar raglen fuddsoddi biliynau o bunnoedd mewn codi Cymru yn ôl ar ei thraed, yn gymdeithasol ac yn economaidd, ac nid yn ôl i le roeddem ni cynt, ond yn ein codi ni i lefel lle gallwn ni fod yn llawer mwy uchelgeisiol yn yr hyn rydym ni'n trio ei gyflawni fel gwlad. Ond i chi, rŵan, efo'r cyfyngiadau sydd gennych chi ar eich uchelgais chi yn hynny o beth, Lywodraeth Cymru, o leiaf cymerwch y cam yna dwi wedi ei grybwyll i dargedu yn benodol y rhai mwyaf bregus a'r plant mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni.