Part of the debate – Senedd Cymru am 7:19 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac fe wnaethom ni gyhoeddi ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf.
Pan siaradais y llynedd yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, neu yn hytrach pan siaradais ddiwethaf am y gyllideb ddrafft hon ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, canolbwyntiais ar bwysigrwydd dyraniadau'r gyllideb i'r grant cymorth tai a llinell y gyllideb i atal digartrefedd. Ac rwy'n siŵr na fydd yr Aelodau'n synnu o glywed y byddaf yn dweud yr un peth i raddau helaeth heddiw yn gysylltiedig â'r ddadl hon.
Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at bwysau sylweddol ar ddigartrefedd a gwasanaethau tai. Rydym yn cymeradwyo'r gwaith rhagorol a wnaed ar ddechrau'r pandemig i roi pobl sy'n cysgu ar y stryd ac eraill y mae angen cartref arnyn nhw yn y llety dros dro yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd ag ef. Ond wrth gwrs, erbyn hyn mae'n rhaid cynnal yr ymatebion i'r heriau sydd wedi codi o ganlyniad i'r pandemig. Ac mae pwysigrwydd cartref diogel, a pha mor gyflym y gellir cyflawni gwelliannau gyda phwyslais ac adnoddau penodol wedi ei ddangos, rwy'n credu, yn yr ymateb i gysgu ar y stryd yn ystod y pandemig hwn. Ond mae'n rhaid i ni gynnal y cynnydd hwnnw a sicrhau nad yw'n cael ei golli yn y dyfodol.
Felly, rydym yn pryderu'n benodol ynglŷn â natur dros dro y cyllid datblygu sydd wedi ei ddarparu a'r ansicrwydd a ddaw yn sgil hynny i gynaliadwyedd gwasanaethau yn y tymor hwy. Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wrthym y bydd y cyllid ychwanegol yn y gyllideb ddrafft yn galluogi llety a chymorth brys hyd at ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Nid ydym yn credu y bydd hyn yn rhoi'r sicrwydd hirdymor angenrheidiol i'r rhai sy'n darparu ac sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn.
Mae'n rhaid parhau i adeiladu ar y gwelliannau sydd wedi eu cyflawni o ran ailgartrefu pobl i lety parhaol, os yw digartrefedd i gael ei ddileu neu mor agos at gael ei ddileu ag y gellir ei gyflawni. Rydym ni, felly, wedi argymell y dylai dyrannu adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn y gyllideb derfynol.
Agwedd arall sydd wedi gweld cynnydd mawr yn y galw yw cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Bu gostyngiad sylweddol yng nghyfradd casglu'r dreth gyngor, o ganlyniad i incwm pobl yn gostwng yn sydyn neu'n dod i ben yn gyfan gwbl. Mae cynghorau wedi gweld ffynonellau incwm eraill yn diflannu yn ystod y pandemig. Felly, mae refeniw'r dreth gyngor yn bwysicach byth i ariannu gwasanaethau. Ni fu pwysigrwydd y cynllun gostyngiadau i gynorthwyo pobl ar incwm is erioed yn fwy, tra bod angen digolledu awdurdodau lleol am effaith y galw cynyddol am fudd-dal ar eu casgliad refeniw.
Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog Cyllid i adolygu'r dyraniad ar gyfer cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor cyn y gyllideb derfynol, ac rydym wedi argymell y dylai hwn fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer adnoddau ychwanegol. Ac mae'r gwaith ar effaith y pandemig wedi dangos bod yr effaith ar y rhai hynny ar incwm is yn fwy andwyol. Felly, mae'n rhaid i gamau pellach i liniaru'r anghydraddoldebau hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Diolch, Llywydd.