Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 9 Chwefror 2021.
Prif Weinidog, rwyf innau hefyd yn croesawu unrhyw arian tuag at hyn. Yn amlwg, mae yn ein calonnau a'n meddyliau ni i gyd ar hyn o bryd, yr anawsterau y mae llawer o blant yn eu dioddef o ganlyniad i'r pandemig hwn, ac felly hefyd y rhieni a'r teuluoedd sydd hefyd yn gorfod jyglo ac ad-drefnu eu bywydau i'w cefnogi. Ond roeddwn i'n meddwl tybed, gan fod llawer o gynghorau yn gwneud gwahanol bethau yn gyffredinol yn Nwyrain De Cymru ond hefyd ledled Cymru, sut mae'r Llywodraeth hon yn dod o hyd i'r enghreifftiau o arfer gorau o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein i gynorthwyo ein plant sy'n agored i niwed ac estyn allan at y plant hynny sydd ei angen nawr a gwneud yn siŵr bod arfer gorau yn cael ei ledaenu ar draws Cymru gyfan. Diolch.