Statws Cyfansoddiadol Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:06, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy anobaith yn gwrando ar bobl fel Gareth Bennett a rhai yn y Blaid Geidwadol sy'n dymuno i Gymru beidio â chael unrhyw fodolaeth o gwbl? Maen nhw eisiau dileu Cymru oddi ar y map, a'r cyfan oherwydd na allan nhw gael eu hethol i'r Llywodraeth yng Nghymru. Mae democratiaeth yn iawn iddyn nhw cyn belled â'u bod nhw'n ennill. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio eu hatgasedd cryf at ein gwlad a pharhau i wrthwynebu eu hymdrechion tila i droi ein gwlad yn sir?