Statws Cyfansoddiadol Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 3:07, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, ers cael fy ethol i'r Senedd a gweithio ar wahanol bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae fy marn ar ddatganoli wedi esblygu, ac rwyf i'n gwyro tuag at berthynas fwy aeddfed rhwng gwledydd y DU a symud tuag at strwythur mwy ffederal. Mae gen i ddiddordeb mewn gwybod, ar ôl clywed eich barn ar gyfeiriad datganoli yn y dyfodol, pa un a oes tir canol rhwng diddymu ac annibyniaeth mewn gwirionedd? Diolch.