Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:58, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi iechyd meddwl plant a phobl ifanc fel gwasanaeth hanfodol drwy gydol y pandemig. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi defnyddio cyllid ychwanegol a ddarparwyd i ddatblygu amrywiaeth o wasanaethau arloesol sy'n cynnwys partneriaid statudol a thrydydd sector eraill.