Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 9 Chwefror 2021.
Yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, roedd ein gweithgarwch rhyngwladol yn cynnwys cael gafael ar gyfarpar diogelu personol a chynorthwyo Llywodraeth y DU i helpu dinasyddion Cymru i ddychwelyd adref o dramor. Roedd y cynlluniau gweithredu rhyngwladol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi ein blaenoriaethau o ran cefnogi adferiad Cymru yn sgil y pandemig.