Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel yr ydych chi newydd ei amlygu, mae'r economi wledig yn wynebu heriau gwahanol ac amrywiol o'i chymharu ag ardaloedd trefol, ac mae hynny wedi digwydd erioed cyn y pandemig hefyd. Mae'r pandemig wedi amlygu pa mor agored i niwed y gall ein ffordd wledig o fyw fod. A wnaed unrhyw asesiad o faint o swyddi a gollwyd mewn cymunedau gwledig o'u cymharu ag ardaloedd trefol, a faint o gwmnïau sydd wedi eu colli? Sut mae cymorth yn cael ei deilwra yn benodol fel ei fod yn addas i'r problemau penodol y mae ardaloedd gwledig yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac, yn wir, wrth i ni ddod allan o'r pandemig a gobeithio tyfu yn ôl yn well?