Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch. Yn unol â rheoliad 46, mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored, wedi euogfarn ddiannod, neu euogfarn ar dditiad, i ddirwy.
Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol wedi cyfrifo y gallai'r gost cyfalaf ymlaen llaw gyrraedd £360 miliwn. Mae hynny £100 miliwn yn fwy na chyfanswm yr incwm diweddaraf o ffermio yng Nghymru, a dim ond 3.6 y cant o hynny yw'r £13 miliwn y mae eich Llywodraeth Cymru chi yn ei gynnig. Mae'n gwbl afresymol ac yn anobeithiol o anghymesur. Oherwydd gweithredoedd eich Llywodraeth Cymru chi, gallai ffermwyr o bob cwr o Gymru fod yn ymuno â'r llinell hir o unigolion sy'n aros am euogfarn mewn llysoedd ynadon.
Er bod Llywodraeth y DU yn sefydlu llysoedd Nightingale i helpu i sicrhau bod cyfiawnder yn parhau i gael ei ddarparu yn ystod y pandemig, gallai eich rheoliadau chi achosi pwysau ychwanegol. Yn hytrach na cheisio gweld ffermwyr yn lleihau llygredd ymhellach drwy fygythiad euogfarn, a rhoi baich ar ynadon, a wnewch chi annog Llywodraeth Cymru i wrando ar argymhellion is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol, megis 5.4, sy'n galw am sicrhau cefnogaeth i ddull gwirfoddol? Diolch.