Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:54, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'r rheoliadau yn gymesur, yn wahanol i'r hyn a awgrymir yng nghwestiwn yr Aelod, gan eu bod wedi'u hanelu at weithgareddau penodol sy'n achosi llygredd. Byddan nhw'n cael eu cyflwyno dros gyfnod o dair blynedd. Hefyd, boed hynny drwy'r grant cynhyrchu cynaliadwy neu'r rhaglen datblygu gwledig a chynlluniau grant, mae cymorth ariannol ar gael i gefnogi ffermwyr i weithio tuag at y drefn newydd honno, sy'n bwysig ar gyfer cefnogi ein hamgylchedd. Ac er fy mod yn cydnabod y costau ariannol a ddaw yn sgil rheoleiddio newydd o unrhyw fath, hoffwn i atgoffa'r Aelod mai ei phlaid hi geisiodd dynnu £137 miliwn allan o bocedi'r ffermwyr eleni, a Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, sydd wedi dod o hyd i'r arian hwnnw o ffynonellau eraill i wneud yn iawn am y gwahaniaeth, i ddiogelu ffermwyr rhag wynebu'r ergyd ariannol honno.