Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, rydym ni i gyd yn deall y materion sy'n ymwneud â'r llifogydd a ddigwyddodd yn Sgiwen, ac rwy'n canmol yn fawr y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ariannu rhai o'r trigolion hynny i sicrhau eu bod yn cael rhywfaint o gefnogaeth. Ond neithiwr, ar Sharp End ar ITV, roedd yn ymddangos bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn awgrymu ei fod yn gofyn i'r tasglu tipiau glo ystyried goblygiadau mwyngloddiau hefyd ar draws de Cymru, a beth mae hynny'n ei olygu i'n cymunedau. Tybed a allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog i ddweud beth yn union y gofynnir i'r tasglu hwnnw ei wneud, pa drafodaethau y mae yn eu cael gyda Llywodraeth y DU o ran y gweithfeydd hyn, a hefyd pa drafodaethau y mae yn eu cael gyda'r corff glo a Llywodraeth y DU i ystyried pa atebolrwydd sydd yna am lifogydd o'r gweithfeydd hyn. Gan ei fod yn honni nad yw'r atebolrwydd am ddŵr llifogydd yn gyfrifoldeb ar neb, ond, pan fydd yn deillio o strwythur o waith dyn y mae rhywun yn gyfrifol am ei gynnal, siawns na ddylai fod rhywfaint o atebolrwydd yn y fan yna, a dylem ni roi sylw pendant iawn i'r agenda honno.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â'r lladradau cŵn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar? Rydym ni wedi gweld nifer cynyddol o gŵn a chŵn bach yn cael eu dwyn ar draws fy rhanbarth a'm hardal i, a ledled Cymru yn arbennig. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith sy'n cael ei wneud i geisio dod o hyd i'r lladron hynny a dychwelyd rhai o'r cŵn hynny, ond rydym ni bellach mewn sefyllfa lle ymosodir ar bobl sy'n mynd â'u cŵn am dro ar y strydoedd ac mae'r ci wedi'i ddwyn wrth fynd am dro. Mae'n amlwg bod angen inni gael datganiad ynghylch pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd gyda'r awdurdodau perthnasol, gyda'r heddlu a Llywodraeth y DU, a sut y gallwn ni efallai addasu cyfraith Lucy, pan gaiff ei chyflwyno, i sicrhau y caiff pobl sy'n gwerthu'r cŵn bach hyn yn anghyfreithlon eu cosbi'n llym oherwydd eu gweithredoedd.
A chais terfynol, mae Gweinidog yr economi—