6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 5:25, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'n gweledigaeth ni o sicrhau llesiant i bobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth. Mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn ystod bron 10 mlynedd ers ein Papur Gwyn cyntaf ar ofal cymdeithasol, 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu', a oedd yn nodi cychwyn y daith hon. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi rhoi gwedd newydd ar y sector. Yn gyffredin â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae yma ganolbwyntio ar lesiant, ac ymdeimlad o atal ac ymyrryd yn gynnar, a gorchymyn i gydgynhyrchu a gweithio ar draws sectorau.

Er bod fframwaith deddfwriaethol cryf gennym ni, mae amrywiaeth o heriau yn wynebu gofal cymdeithasol, ac wrth gwrs yr her fwyaf sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol yw'r sefyllfa o ran ariannu, yng nghyd-destun galwadau cynyddol a mwy cymhleth ar wasanaethau, ac mae blynyddoedd o gyni ledled y DU wedi gadael eu hôl ar gyllid cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnydd o £172 miliwn i gyllidebau llywodraeth leol yn 2021-22, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol, ond mae ansicrwydd ynghylch penderfyniadau cyllidebol i'r dyfodol ar lefel y DU. Hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a'r buddsoddiad sylweddol a wnaethom yn y sector i fynd i'r afael â chostau sy'n codi oherwydd y pandemig, mae'r angen a ragwelir o ran cyllid yn y dyfodol yn edrych yn heriol. Fe fydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn ystod yr wythnosau nesaf am waith y grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal.

Mae'r pandemig wedi rhoi gofal a chymorth dan straen pellach sylweddol, ac mae gwendid y sector yn fwy gweladwy byth. Mae'n anodd, ar hyn o bryd, rwy'n gwybod, edrych ymhell y tu hwnt i'r wythnos bresennol, heb sôn am edrych i'r dyfodol hirdymor, ond mae effaith y pandemig yn dangos bod yn rhaid inni weithio i roi gofal a chymorth ar sail hirdymor llawer cadarnach. Dyna pam mae'n rhaid inni gyflymu ein gwaith trawsnewidiol ni er mwyn gwneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy. Mae'n rhaid achub ar y cyfle pan fo ymwybyddiaeth y cyhoedd o ofal cymdeithasol wedi cyrraedd uchafbwynt, a cheisio creu consensws ledled Cymru ynglŷn â'r hyn y mae angen inni ei wneud i ailgodi'n gryfach. Mae'n rhaid inni ddysgu o'r ffordd y mae'r sector wedi gweithio gyda'i gilydd yn ystod y pandemig i gydlynu a darparu gwasanaethau, yn unol â'n gweledigaeth ni o Gymru iachach.

Rwyf wedi ymrwymo'n gryf i wneud penderfyniadau am wasanaethau lleol mor agos â phosibl at y bobl leol, ac felly at atebolrwydd democrataidd sy'n lleol. Wrth wneud y datganiad clir hwnnw ar atebolrwydd democrataidd lleol, nid peth anghydnaws yw tynnu sylw at gymhlethdod y tirlun gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod nifer o faterion y mae angen inni fynd i'r afael â nhw drwy ddull esblygol o ymdrin â chyfeiriad polisi a roddir gan Lywodraeth Cymru ar lefel genedlaethol.

Ym mis Ionawr, fe gyhoeddais ymgynghoriad Papur Gwyn ar 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth'. Rwy'n cynnig, er mwyn bod yn addas i'r dyfodol, fod angen mesurau deddfwriaethol arnom sy'n hanfodol, yn ein tŷb ni, i wireddu ein gweledigaeth. Yn ei hanfod, mae'r Papur Gwyn yn ceisio ailgydbwyso gofal a chymorth fel bod hynny'n seiliedig ar fframwaith cenedlaethol eglur, lle mae gwasanaethau yn cael eu trefnu'n rhanbarthol a'u darparu'n lleol. Rydym yn bwriadu datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal cymdeithasol a fydd yn lliniaru cymhlethdod ac yn sicrhau mai ansawdd yw'r prif ffactor sy'n dylanwadu ar lwyddiant yn y farchnad gofal cymdeithasol.

Fe wyddom fod dilyniant o ran y gweithlu gofal cymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar gyflawni canlyniadau i bobl, ac felly fe fydd yna gysylltiad cryf rhwng y fframwaith cenedlaethol a'r camau gweithredu i gefnogi'r gweithlu. Fe gaiff swyddfa genedlaethol fach ei sefydlu i ddatblygu'r fframwaith yn gynhyrchiol gyda'n partneriaid, yn arbennig mewn llywodraeth leol a'r GIG. Ar wahân i hynny, fe fyddwn ni'n sefydlu llais proffesiynol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, ar lefel genedlaethol o fewn Llywodraeth Cymru.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ac rydym yn awyddus i'w cefnogi nhw i adeiladu ar eu llwyddiannau, ac i rymuso'r integreiddio ledled Cymru. Byddwn yn gwella byrddau partneriaeth rhanbarthol drwy roi cyfres fanylach o ddulliau iddynt eu defnyddio, i gyflawni eu nodau craidd nhw, er mwyn cynllunio a chomisiynu gofal a chymorth yn well lle mae gweithredu ar y cyd yn hanfodol i wella llesiant pobl.

Fe fydd y cynigion a nodais yn lliniaru cymhlethdod, yn cryfhau cynaliadwyedd ac yn grymuso integreiddio. Fe fyddan nhw'n cynyddu tryloywder yn hytrach na chymylu atebolrwydd lleol. Mae'r cynigion yn allweddol ar gyfer sicrhau'r weledigaeth ar gyfer gofal cymdeithasol a nodir yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, gan gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau o ran llesiant.

Mae'r Papur Gwyn yn lasbrint ar gyfer sector gofal a chymorth sy'n gryfach ac yn fwy cytbwys. Mater i'r Llywodraeth Cymru newydd fydd bwrw ymlaen â chanlyniadau'r ymgynghoriad ynglŷn â'm cynigion i. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Senedd i gyd yn annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, fel y gallwn gydweithio i gyflawni ein gweledigaeth o sicrhau llesiant i bobl.