Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi gwneud cryn dipyn o waith drwy ein comisiwn gofal ni, a oedd yn dadlau'r achos dros wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol, ac am newid mawr tuag at atal afiechyd a galluogi pobl i barhau i fyw'n annibynnol. Ond, fe wnaeth ein comisiwn ni hynny o safbwynt yr hyn sydd orau i'r bobl sy'n derbyn y gwasanaeth. Felly, rwy'n synnu bod Papur Gwyn y Llywodraeth a'r datganiad, yn anad dim, wedi mynegi hyn yng nghyd-destun cyni a heriau ariannol.
Mae'n wir y bydd pobl iachach, sy'n byw'n annibynnol, yn costio llai o arian i wasanaethau iechyd a gofal na fel arall, ond mae arnaf i ofn y gall defnyddio cyni fel y prif gyfiawnhad dros hynny achosi rhywfaint o wrthdaro. Gwnewch hyn am mai dyna'r peth iawn i'w wneud, nid am fod y cyfrifon yn penderfynu yn eich lle chi.
Mae'r heriau a nodwyd yn y Papur Gwyn yn debyg i'r heriau a nodwyd gennym ni, mewn gwirionedd: diffyg cynnydd, yn gyffredinol, o ran yr agenda integreiddio; cynnydd cyfyngedig o ran rhannu data; problemau gyda chomisiynu. Ond, nid wyf i'n siŵr a yw'r Llywodraeth Lafur hon wedi sylweddoli hynny eto, mewn gwirionedd. Yn 2013, fe gyflwynodd Plaid Cymru welliannau i'r Bil gwasanaethau cymdeithasol i'w gwneud hi'n ofynnol sefydlu partneriaethau. Fe wrthodwyd y rhain a phleidleisiwyd o blaid cytundebau gwirfoddol. Rydych wedi bod yn rhoi un cyfle olaf i bartneriaethau gwirfoddol am y rhan fwyaf o'r degawd diwethaf.
Hefyd, yn fy marn i, mae'n eithaf dadlennol nad yw eich datganiad chi'n sôn am iechyd na'r GIG mewn gwirionedd. Felly, efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut mae hi'n gweld integreiddio yn gweithio nawr. Yn sicr, nid oes sôn am dai, na'r amgylchedd ehangach. Ydym, rydym yn gwybod bod angen addasu mwy o dai i helpu pobl i barhau i breswylio ynddynt. Mae angen mwy o gyfleusterau gofal lled-breswyl sy'n osgoi'r problemau gyda gofal preswyl llawn, wrth barhau i gefnogi'r bobl ynddyn nhw. Ond mae angen inni fynd i'r afael â thai fel rhan greiddiol o hyn. Mae'n ymddangos i mi mai gweithio mewn blychau ar wahân sydd gennym ni yma, a hynny'n eglur iawn i'w weld.
Gan droi at rywbeth y mae'r datganiad yn ei grybwyll, sef y gweithlu. Rwyf innau'n croesawu peth o'r gwaith a wnaed ar hyn, ond mae'n werth cofio pa mor aml y pleidleisiodd plaid y Llywodraeth yn erbyn ymdrechion i wahardd contractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol. Fel roedd comisiwn Plaid Cymru yn ei argymell, ein hymrwymiad cadarn ni yw y byddwn ni'n rhoi staff gofal cymdeithasol ar raddfeydd cyflog y GIG, gan wneud cyfiawnder, o'r diwedd, â'r dyhead i wneud gofal cymdeithasol yn yrfa werthfawr y gall pobl ymgyrraedd ati. Tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu ei safbwynt hi ar hynny.
Ac yn olaf, rwyf am droi at ymarferion comisiynu. Fe sonnir yn helaeth yn y Papur Gwyn am y problemau o ganolbwyntio ar bris yn hytrach nag ansawdd. Nawr, fe wyddom fod y Llywodraeth yn cynnig fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu, ond fe hoffwn i gael mwy o fanylion am sut y bydd fframwaith arfaethedig y Llywodraeth hon yn osgoi'r ras i'r gwaelod a adawodd ein cartrefi gofal ni mor agored i'r pandemig. Rwy'n eich atgoffa chi eto mai fy nghynnig i yw cyfres o fframweithiau cenedlaethol sy'n rhoi asgwrn cefn i ddarpariaeth leol mewn gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol i Gymru sy'n integredig fel y dylai fod.