Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr iawn, Rhun. Nid yw eich datganiad diwethaf chi'n swnio'n annhebyg iawn i'n cynnig ni.
Mae llawer o faterion yna. Os caf i ddechrau gyda'r gweithlu, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gydnabod gwerth y gweithlu gofal cymdeithasol. Yn sicr, mae'r pandemig hwn wedi hoelio ein sylw ni'n llwyr ar bwysigrwydd y gweithlu. Rwy'n credu bod y cyhoedd—a rhai am y tro cyntaf, efallai—yn sylweddoli pa mor hanfodol yw'r gwaith y mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn ei wneud. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cydnabod eu gwaith nhw drwy roi cydnabyddiaeth o £500 o fonws iddyn nhw, ac fe groesawyd hwnnw'n fawr iawn. Ond rwy'n credu hefyd, ei bod yn gydnabyddiaeth lwyr o'r gwaith y maen nhw'n ei wneud.
Yng ngwaith y grŵp rhyng-weinidogol, roedd cyflog y gweithlu gofal cymdeithasol yn un o'r prif faterion a drafodwyd. Ac, wrth gwrs, fel y dywedais i, fe fydd y Gweinidog yn dod i siarad â'r Senedd am yr amrywiaeth o ddewisiadau, a chostau'r rhain, a ddaeth i'r golwg drwy waith y grŵp rhyng-weinidogol. Fe ddywedodd rhai Aelodau na ddylem adael i gyni benderfynu ar hynny. Nid ydym ni'n gadael i gyni benderfynu ar yr hyn a wnawn ni; yr hyn yr ydym yn ei ddweud, mewn gwirionedd, yw mai un o ganlyniadau cyni yw bod y sefyllfa hon yn fwy difrifol byth.
Rydym eisoes yn meithrin proffesiynoldeb y gweithlu. Fel y gwyddoch, rydym wedi sefydlu cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol, a gafodd groeso eang gan y sector, ac mae'r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol wedi cael croeso eang iawn hefyd. Yn ystod y pandemig, rydym wedi ceisio cael cymaint o gydraddoldeb ag y gallwn ni rhwng y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod heriau enfawr gyda gofal cymdeithasol, ac rwy'n cytuno â chi'n llwyr, Rhun, ei bod yn hanfodol i iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio'n agos â'i gilydd.
Rwy'n credu'n gryf iawn y dylai pobl sydd angen cymorth gofal cymdeithasol aros yn y gymuned cyn belled â bod hynny'n bosibl, oherwydd dyna lle maen nhw'n dymuno bod. Ond, wrth gwrs, mae angen y gefnogaeth arnom i sicrhau hynny. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle pan rydych chi'n sôn am dai. Mae tai yn un o'r materion allweddol yr ydym wedi edrych arno yn y grŵp rhyng-weinidogol, ac mae pethau fel tai ychwanegol a chymorth ychwanegol yn y gymuned yn un o'r meysydd y dylem ni'n bendant fynd ar eu trywydd, yn fy marn i, ac yn un o'r pethau y byddai'r Llywodraeth yn eu cefnogi.