Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Siaradaf ynghylch y ddwy gyfres o reoliadau; gwnaethom ni ystyried y rhain yn ein cyfarfod ddoe.
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021 yn diwygio rheoliadau teithio rhyngwladol 2020 a rheoliadau cyfyngiadau Rhif 5. Mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt rhinweddau. Mae'r pwynt cyntaf yn nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth â hawliau dynol. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y memorandwm esboniadol, sy'n cadarnhau nad yw'r diwygiadau a wneir gan y rheoliadau hyn yn newid ymgysylltiad, o dan y rheoliadau teithio rhyngwladol na rheoliadau cyfyngiadau Rhif 5, hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mae'r ail bwynt rhinweddau yn bwynt adrodd cyfarwydd a wnawn. Rydym wedi nodi na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau, ond am resymau y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ohonynt.
Gan droi'n awr at yr ail gyfres o reoliadau, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021. Mae'r rhain yn gwneud newidiadau i reoliadau cyfyngiadau Rhif 5, sef, wrth gwrs, y prif reoliadau ar coronafeirws. Yn benodol, fel y dywedodd y Gweinidog, maen nhw'n caniatáu i berson sy'n byw mewn ardal lefel rhybudd 4, sef Cymru gyfan ar hyn o bryd, adael y man lle mae'n byw i ymarfer corff gydag un person arall. Maen nhw hefyd yn caniatáu i bobl ffurfio aelwydydd estynedig newydd, yn amodol ar fodloni amodau arbennig.
Mae ein dau bwynt adrodd cyntaf yn ymwneud â chyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. O ganlyniad i'r newidiadau hyn sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff ac aelwydydd estynedig, mae'r memorandwm esboniadol yn rhoi sylwadau ar sut y mae'r rheoliadau hyn yn lleihau'r graddau y mae'r cyfyngiadau a'r gofynion yn y prif reoliadau yn ymyrryd â hawliau unigol. Ac mae ein hail bwynt adrodd unwaith eto'n nodi na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau.