Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 10 Chwefror 2021.
Wel, mae'n hollol wir fod y pandemig wedi cael effaith ddifrifol iawn ar y sector lletygarwch ledled Cymru, a dyna pam rydym yn gweithio mor galed i roi'r gefnogaeth orau bosibl ar waith. Mae busnesau gwely a brecwast yn enwedig yn gallu manteisio ar y cymorth dewisol rydym wedi'i roi ar waith drwy awdurdodau lleol ac rydym wedi gwneud hynny oherwydd ein bod yn cydnabod y bydd yna nifer o fusnesau heb fynediad at y cyllid ardrethi annomestig rydym wedi'i roi ar waith. Felly, rydym yn ceisio bod mor hyblyg ag y gallwn er mwyn cynnig y pecyn cymorth gorau i fusnesau. Ond fel rwy'n dweud, nid ydym yn cymryd unrhyw ran o hyn yn ganiataol. Rydym yn glir iawn fod hwn yn gyfnod anodd iawn i fusnesau ac rydym yn awyddus i wneud yr hyn a allwn i'w cynorthwyo a hefyd i'w cefnogi wedyn i mewn i'r cyfnod adfer ac adnewyddu.