Coronafeirws a'r Gyllideb

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:22, 10 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, mae gan Lywodraeth y DU fynediad at lawer mwy o arian na Llywodraeth Cymru, a bydd gwir angen cael yr arian hwnnw i'n helpu i ymadfer wedi'r coronafeirws. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ba drafodaethau a gawsoch neu y bwriadwch eu cael gyda Llywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith o ailadeiladu cyllid Cymru?