Cyllid i Ddioddefwyr Llifogydd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:18, 10 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am godi'r mater penodol hwnnw. Os yw'n dderbyniol gan Suzy Davies, fe wnaf ofyn am gyngor penodol, oherwydd credaf fod rhai o'r cwestiynau hynny'n crwydro i feysydd cyfreithiol nad wyf fi'n gymwys i siarad arnynt y prynhawn yma o bosibl. Felly, ar y rhwymedigaethau ac yn y blaen, fe wnaf ddarparu diweddariad ysgrifenedig i Suzy Davies ar rwymedigaethau.